Bydd y rheiny sy’n medru’r Gymraeg, ond sydd mewn perygl o golli eu lleisiau oherwydd salwch, yn parhau i gael cymorth yn sgil arian gan Lywodraeth Cymru.
Gall rhai cyflyrau megis Motor Niwron neu ganser y gwddf olygu bod pobol yn wynebu colli’r gallu i ddefnyddio’u lleisiau’n barhaol.
Mae technoleg arbenigol yn cael ei hariannu gan y Llywodraeth drwy’r Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg, fel bod modd i bobol allai golli eu lleisiau greu llais synthetig personol ar sail eu lleisiau eu hunain.
Mae technoleg Gymraeg yn elfen allweddol o strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr.
Yn rhan o’r gwaith hwn, caiff grantiau eu dyrannu tuag at brosiectau arloesol gyda’r nod o gynyddu defnydd pobol o’r iaith o ddydd i ddydd ac i hybu technoleg sy’n cefnogi defnydd o’r Gymraeg.
“Ergyd” wrth golli llais
“Mae Lleisiwr wedi bod yn gaffaeliad i mi, gan ei fod yn golygu bod modd i mi barhau i gyfathrebu gan ddefnyddio llais synthetig sy’n swnio fel fi,” meddai Mrs Roberts, un sy’n defnyddio’r dechnoleg.
Dywed Mark Drakeford, y gweinidog sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, ei fod yn croesawu’r datblygiad.
“Does dim dwywaith bod colli’ch llais yn ergyd anferthol i bobol, ac mae datblygiadau technolegol yn gallu eu helpu i gyfathrebu unwaith eto yn ystod y cyfnod bregus hwn,” meddai.
“Cyn hyn, doedd dim modd bancio eich llais yn Gymraeg.
“Rwy’n hynod o falch o gefnogi prosiect sy’n galluogi pobol i barhau i gyfathrebu â’u ffrindiau a’u teuluoedd yn eu hiaith eu hun.”
Lleisiwr
Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor sy’n gyfrifol am ddatblygu Lleisiwr.
“Mae mor bwysig i’r lleisiau hyn fod yn ddwyieithog oherwydd ein bod yn tueddu i newid yn ôl ac ymlaen rhwng ein hieithoedd drwy’r dydd,” meddai Gruffudd Prys, arweinydd Technolegau Iaith y Ganolfan.
“Rwy’n credu’n gryf na ddylech orfod newid eich meddalwedd bob tro y byddwch am newid eich iaith.
“Rydym am i safon recordiadau llais fod gystal ag y bo modd, ac felly rydym yn awyddus iawn i gleifion gysylltu â ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn ddatblygu’r gwasanaeth.
“Os byddai aelod o’r teulu neu ffrind i chi yn elwa o hyn, rhowch wybod iddyn nhw.”