Mae’r grŵp Rhieni dros Balesteina wedi bod yn protestio ar lawr ger y Senedd er mwyn gwrthwynebu creu a gwerthu arfau i Israel.
Maen nhw’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig, a Llywodraeth Cymru sy’n eu cynorthwyo, i godi embargo ar unrhyw arfau sy’n cael eu gwerthu i Israel.
“Stop Killing Kids” oedd y neges ar un o grysau-T rhieni.
“Dros flwyddyn o hil-laddiad, ac mae gweithredwyr yng Nghaerdydd heddiw wedi mynd i mewn i’r Senedd heddiw i alw am embargo ar werthu arfau i Israel,” meddai Bethan Sayed, cyn-Aelod Plaid Cymru o’r Senedd.
“Tra bo plant yma (yng Nghymru) yn gallu mwynhau toriad yr hanner tymor i ffwrdd o’r ysgol, nid oes y fath ffordd i blant ac i addysgwyr ymlacio ym Mhalesteina, sydd o dan fygythiad cyson gan Israel.”
Creu yng Nghymru, lladd ym Mhalesteina
Ers yr ymosodiad gan Hamas ar Hydref 7, mae ffigyrau Gweinyddiaeth Iechyd Palesteina yn dangos bod 43,204 o bobol wedi’u lladd yn Gaza.
Mae Israel bellach wedi bod yn ymladd yn Gaza, yn Libanus ac yn erbyn Iran.
Wrth siarad â golwg360, dywed Bethan Sayed mai “pwrpas cael rhieni a phlant i wneud hyn oedd i ddangos bod plant yn cael eu lladd ym Mhalesteina gan arfau sydd yn cael eu gwneud yma yng Nghymru”.
“A dyna pam roedden ni’n meddwl bod mamau a phlant yn ei wneud e’n fwy pwerus.”
Ychwanega ei bod hi’n credu mai hon oedd y brotest gyntaf ar eistedd ar lawr yn y Senedd.
Arfau i Israel yn cael eu creu yng Nghymru
Galwodd y Senedd am gadoediad fis Tachwedd y llynedd.
Ond mae Bethan Sayed yn dadlau nad yw Aelodau’r Senedd yn dangos “brys go iawn” i fynd i’r afael â’r sefyllfa.
Mae’r weithred heddiw’n alwad uniongyrchol i “wahardd creu arfau i Israel sydd yn cael eu cynhyrchu mewn ffatrïoedd Cymreig”.
Yn ôl Cymdeithas y Cymod, mae ffatrïoedd Teledyne Technologies ym Mhowys, Elbit Systems yn Aber-porth, a JCB yn Wrecsam yn darparu neu’n profi arfau i fyddin Israel.
Dywed Bethan Sayed ei bod hi’n “dyngedfennol” nad yw arfau’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru nac yng ngwledydd Prydain a chael eu gwerthu i Israel.
“Os nad ydy Cymru yn stopio creu a gwerthu arfau i Israel, rydyn ni’n rhan o’r broblem a’r holl gasineb a’r holl erchylltra sydd yn digwydd ym Mhalesteina ar hyn o bryd.”
Dywed fod Rhieni dros Balesteina eisiau i Lywodraeth Cymru “dynnu unrhyw gytundebau” â’r cwmnïau sy’n cyfrannu at werthu arfau i Israel.
‘Dim opsiwn heblaw gweithredu a siarad ma’s’
“Rydym yma fel rhieni a neiniau a theidiau oherwydd y lladd ofnadwy sydd yn digwydd i bobol ym Mhalesteina, yn cynnwys miloedd o blant; dydy hyn ddim yn rhoi opsiwn i ni heblaw gweithredu a siarad ma;s,” meddai Frankie Finn, sy’n fam, nain ac ymgyrchydd o Gaerdydd.
“Rydym yn bwydo, yn chwarae, yn amddiffyn ac yn gafael yn ein plant drwy gydol y dydd.
“Rydym yn gofalu am ein plant efo’r ymwybyddiaeth ofnadwy bod y sefyllfa i rieni yn Gaza yn gwbl wahanol.
“Mae Cymru yn wlad Geltaidd, ac yn lle o dosturi a charedigrwydd.
“Rydym yn cymell fod Llywodraeth Cymru’n defnyddio pob ffordd maen nhw’n gallu i ddod â diwedd i werthu arfau i Israel, ac i alw am gadoediad ar frys nawr.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Mae Llywodraeth Cymru yn glir: rydym am weld cadoediad, a diwedd ar y lladd, ar unwaith,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Hefyd, rydym am weld cynnydd sylweddol ar unwaith yn y cymorth mae modd ei ddarparu; ac rydym eisiau gweld gwystlon yn cael eu rhyddhau.”