Fe wnaeth arweinydd yr wrthblaid Geidwadol dorri rheolau’r Senedd wrth ddisgrifio 20m.y.a. fel polisi blanced, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.
Daethpwyd i’r casgliad fod Andrew RT Davies wedi dwyn anfri ar Senedd Cymru ar ôl galw’r terfyn cyflymder diofyn yn bolisi “blanced” ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Llwybr bws arall wedi’i dorri diolch i derfynau cyflymder 20m.y.a. blanced Llafur a Phlaid Cymru,” meddai’r trydariad, gafodd ei bostio ddiwrnodau’n unig ar ôl dyfarniad fod yr ymadrodd yn “amwys ac anghywir”.
Daeth ymchwiliad gan Douglas Bain, Comisiynydd Safonau’r Senedd, i’r casgliad fod Andrew RT Davies wedi torri’r Cod Ymddygiad wrth barhau i ddefnyddio’r term.
Ond cafwyd y Ceidwadwr yn ddieuog o dorri rheolau’n ymwneud â gonestrwydd.
“Dw i’n fodlon nad oedd yn fwriad ganddo dwyllo neb,” meddai Douglas Bain.
‘Ffals’
Eglurodd fod anwiredd yn gofyn bod yna elfen o dwyll neu warthusrwydd moesol.
Bydd Andrew RT Davies, sydd wedi arwain y Ceidwadwyr Cymreig dros ddau gyfnod ers 2011, yn cael ei “geryddu” yn ffurfiol, sy’n gyfystyr â chael stŵr, yn y Senedd ar Dachwedd 6.
Cyfaddefodd y gwleidydd ei fod e’n ymwybodol o gasgliad y Pwyllgor Safonau fod darlunio’r terfyn cyflymder diofyn fel polisi blanced yn amwys ac anghywir.
Dadleuodd fod ganddo’r hawl i ddefnyddio’r ymadrodd yn unol ag Erthygl 10 (Rhyddid Mynegiant) Confensiwn Ewrop ar Hawliau Dynol.
“Pan bostiodd e’r trydariad, roedd yr Aelod yn gwybod – neu fe ddylai fod wedi gwybod – ei fod yn ffals, er nad yn anwir nac yn anonest,” meddai Douglas Bain yn ei ddyfarniad.
“Doedd e ddim wedi’i warchod gan yr uwchwarchodaeth sy’n cael ei rhoi i wleidyddion.”
‘Wedi methu’
Fe wnaeth Andrew RT Davies, oedd wedi cytuno i beidio â defnyddio’r term “blanced” hyd nes bod y gwyn wedi’i datrys, fynnu y dylid godde’r disgrifiad, ar ei waethaf, fel “gorddweud anghywir”.
Fis Chwefror, fe wnaeth Shaun Haggerty gwyno wrth y Comisiynydd, gan feirniadu Andrew RT Davies am “barhau i ddefnyddio’r term yn anghywir”, ac fe arweiniodd hynny at yr ymchwiliad.
Ac mewn adroddiad ddilynodd ddoe (dydd Mercher, Hydref 30), daeth y Comisiynydd i’r casgliad fod Andrew RT Davies wedi torri rheolau un (egwyddor arweinyddiaeth) a dau (dwyn anfri ar y Senedd) yn y Cod.
Dywedodd Douglas Bain, gafodd ei benodi yn 2021 ar ôl bod yn Gomisiynydd dros dro, bod disgwyl i arweinydd yr wrthblaid osod esiampl.
“Rwy’n fodlon fod yr Aelod, wrth bostio’r trydariad, yn gwybod neu fe ddylai fod yn gwybod ei fod e’n ‘amwys ac anghywir’ ac felly’n fals,” meddai.
“Drwy anwybyddu rhybudd y pwyllgor a’r cyngor gafodd ei roi… fe wnaeth e fethu â rhoi’r arweinyddiaeth oedd yn ofynnol ganddo.”
‘Pobol sy’n rhoi genedigaeth’
Roedd Andrew RT Davies hefyd yn destun ymchwiliad yn dilyn cwyn arall, gafodd ei chyflwyno gan Anthony Jones fis Ebrill, a honno hefyd yn ymwneud â negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol.
“Mae Llywodraeth Lafur Vaughan Gething yn cofleidio’r un ideoleg eithafol â’i ragflaenydd. Does dim byd wedi newid,” meddai’r trydariad.
Oddi tano roedd llun, oddi ar wefan wleidyddol Guido Fawkes, o’r cyn-Brif Weinidog a dynes feichiog, gyda’r capsiwn, ‘Datganiad i’r wasg Llywodraeth Cymru’n dathlu ‘pobol sy’n rhoi genedigaeth’.
Roedd y gwyn yn disgrifio’r neges fel “celwydd noeth”, gan rybuddio ei bod yn gamarweiniol ac yn beryglus, ac fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru nad oedd y fath ddatganiad i’r wasg wedi cael ei gyhoeddi.
Cyfeiriodd Andrew RT Davies at y ffaith fod datganiad gweinidogol ar Ebrill 26 yn cyfeirio at ‘bobol sy’n rhoi genedigaeth’, wrth ddadlau unwaith eto ei fod yn defnyddio’i hawl i ryddid mynegiant.
Wrth gael ei gyfweld dan lw, dywedodd Andrew RT Davies wrth y Comisiynydd fod Anthony Jones “wedi cwyno droeon” am ei ymddygiad, gyda phedair cwyn arall ers 2023.
‘Amherthnasol’
Ond wnaeth Douglas Bain ddim ystyried bod yr un o’r pedair cwyn yn flinderus, a doedd e ddim yn fodlon â’r eglurhad fod y testun wedi’i gopïo oddi ar wefan Guido Fawkes.
“Rwy’n glir fod hyn yn amherthnasol,” meddai yn ei adroddiad.
“Mae Aelodau’n llwyr gyfrifol am unrhyw ddyfyniad maen nhw’n dewis ei gynnwys mewn trydariad… mae hynny wedi’i egluro wrth Aelodau droeon.”
Cyfeiriodd Douglas Bain at y ffaith fod canllawiau ar gyfer y Cod Ymddygiad yn nodi bod disgwyl i Aelodau’r Senedd wirio ffeithiau a’r hyn maen nhw’n ei ddatgan i raddau sy’n rhesymol.
“Ac yntau’n gyn-aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad, rwy’n ei chael hi’n annirnadwy nad oedd yn ymwybodol o hynny,” meddai.
Gofynnodd y Comisiynydd a yw Andrew RT Davies yn derbyn y byddai gwleidydd yn gwneud datganiad ffals neu gamarweiniol yn debygol o ddwyn anfri ar y Senedd.
‘Camarweiniol’
“Pe bai rhywun yn gwneud hynny’n fwriadol, yna wrth gwrs, byddai hynny’n achos o ddwyn anfri ar y Senedd,” meddai Andrew RT Davies wrth ateb.
“Ond dw i ddim yn derbyn hynny o gwbl yn yr achos hwn.”
Disgrifiodd Andrew RT Davies ddatganiadau i’r wasg a datganiadau gweinidogol fel rhai sy’n gyfystyr â’i gilydd, ond wnaeth Douglas Bain ddim derbyn hynny, gan ddweud bod yna wahaniaeth clir.
“Tra nad oes gen i unrhyw amheuaeth fod trydariad yr Aelod… yn anghywir ac o bosib yn gamarweiniol, dydw i ddim yn fodlon ar sail y dystiolaeth fod modd dod i’r casgliad ei fod yn anwir,” meddai.
Ond daethpwyd i’r casgliad unwaith eto bod Andrew RT Davies wedi dwyn anfri ar y Senedd.
“Rwy’n fodlon na wnaeth yr Aelod unrhyw ymgais i wirio cywirdeb y testun gan Guido Fawkes y gwnaeth ei gopïo i mewn i’w drydariad,” meddai’r Comisiynydd.
Mae Andrew RT Davies wedi derbyn cais am ymateb.