Mae Llywodraeth Catalwnia wedi cynnig cymorth i Valencia yn dilyn llifogydd sydd wedi lladd dros 90 o bobol.

Mae’r llifogydd hefyd wedi effeithio ar ardaloedd Castilla-La Mancha ac Andalusia, ar ôl i werth blwyddyn o law gwympo dros gyfnod o 24 awr.

Mae lle i gredu bod 40 o’r rhai fu farw’n byw yn nhref Paiporta.

Mae Salvador Illa, arlywydd Catalwnia, wedi estyn “solidariaeth a chydymdeimlad” i bawb sydd wedi cael eu heffeithio, gan ddweud bod y golygfeydd yno’n “hynod emosiynol”.

Mae ei lywodraeth wedi cynnig “pob adnodd sydd ar gael” i’r gwasanaethau brys sy’n mynd i’r afael â’r sefyllfa, wrth i ddiffoddwyr tân, gweithwyr iechyd, timau hofrenyddion, seicolegwyr a chyfarpar megis dronau, camerâu gwres a chychod gael eu hanfon i’r rhanbarth.

Yn sgil y digwyddiad, mae Senedd Catalwnia wedi dod â’u busnes i ben tan yr wythnos nesaf, a bydd llefarwyr yn cyfarfod i ddangos solidariaeth.

Mae Salvador Illa hefyd wedi gohirio nifer o ddigwyddiadau wrth i’r sefyllfa ddatblygu, gan ffurfio pwyllgor i fonitrio effeithiau’r llifogydd a Storm Dana, sy’n debygol o daro Catalwnia.

Mae’r rhybudd mwyaf difrifol am dywydd garw mewn grym yn Barcelona, gyda chorwyntoedd yn bosib.

Mae pobol yn cael eu cynghori i gadw draw o draethau wrth i’r gwasanaethau brys baratoi, a bydd ysgolion ynghau, ynghyd ag ardaloedd sy’n debygol o gael eu taro.

Mae gwasanaethau trên rhwng Catalwnia a Valencia wedi’u canslo am y tro.