Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru’n galw ar Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig i eithrio maes gofal cymdeithasol rhag y cynnydd yng nghyfraniadau cyflogwyr at Yswiriant Gwladol eu gweithwyr.

Yn rhan o’r Gyllideb gafodd ei chyhoeddi ddoe (dydd Mercher, Hydref 30), roedd y Canghellor Rachel Reeves wedi darparu cyllid ychwanegol i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus yn Lloegr i dalu cost y polisi.

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wrth BBC Cymru neithiwr y byddai arian ychwanegol ar gael i Gymru ar gyfer proses debyg, ac mae disgwyl i’r manylion gael eu cyhoeddi dros y dyddiau nesaf.

Fodd bynnag, gan fod y mwyafrif o ddarparwyr gofal yn breifat, fyddan nhw ddim yn elwa ar y cymorth hwn.

Mae 98% o ddarparwyr gofal y Deyrnas Unedig (18,000 o sefydliadau) yn gyflogwyr bach.

Yn ôl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, dylai darparwyr gofal – gan gynnwys cartrefi gofal a’r rhai sy’n darparu gofal yng nghartrefi pobol – gael eu heithrio o’r cynnydd yng nghyfraniadau cyflogwyr at Yswriant Gwladol.

Perygl o waethygu argyfwng y Gwasanaeth Iechyd

“Dewis anghywir” fyddai cynyddu treth busnesau bach, meddai David Chadwick, Aelod Seneddol Democratiaid Rhyddfrydol Cymru dros Frycheiniog, Maesyfed a Chwm Tawe.

“Bydd yn taro cyflogau a swyddi pobol, ond mae perygl hefyd o waethygu argyfwng y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru drwy gynyddu costau i ddarparwyr gofal a gwthio rhai i’r dibyn.

“Mae’n ymddangos unwaith eto fel pe bai’r Llywodraeth Lafur wedi anghofio am ofal.

“Dylai’r Canghellor o leiaf fod yn eithro gofal cymdeithasol o’r dreth swyddi gostus hon.”