Gall golwg360 ddatgelu bwriad Adam Price, cyn-arweinydd Plaid Cymru, i frwydro sedd Sir Gaerfyrddin yn etholiadau’r Senedd yn 2026.
Dydy’r etholaethau ddim wedi cael eu cadarnhau’n derfynol eto, ond yn ôl cynigion ym mis Medi gan y Comisiwn sy’n gyfrifol am greu’r etholaethau newydd, bydd etholaeth Sir Gaerfyrddin yn gyfuniad o etholaethau Caerfyrddin a Llanelli fel ag y maen nhw yn San Steffan.
Ond mae “disgwyl cyffredinol” y bydd Sir Gaerfyrddin yn un etholaeth yn y Senedd.
Mewn llythyr yn cadarnhau ei fwriad, dywed Adam Price ei fod ag “awch a brwdfrydedd” i “chwarae rhan allweddol” yn llwyddiant Plaid Cymru yn etholiad 2026.
Adam Price yw’r Aelod presennol cyntaf o unrhyw blaid i gyhoeddi ei fwriad i geisio enwebiad ar gyfer y Senedd, er bod Lee Waters wedi cadarnhau ei fwriad i gamu i ffwrdd o wleidyddiaeth yn dilyn yr etholiad.
🏴 Mae fy ymrwymiad angerddol i Sir Gaerfyrddin, i Gymru, ac i’w dyfodol yr un mor gryf nawr ag yr oedd pan ymunais â’r blaid yn ystod Streic y Glowyr ddeugain mlynedd yn ôl.
Rwy'n gobeithio cael y cyfle i gynrychioli'r gornel unigryw hon o Gymru eto yn y Senedd nesaf👇 https://t.co/xxr7c5xlyY
— Adam Price 🏴🏳️🌈 (@Adamprice) October 31, 2024
Llythyr
“Rwy’n falch i gadarnhau fy mwriad i geisio enwebiad y Blaid i sefyll fel ymgeisydd i gynrychioli Sir Gaerfyrddin yn y seithfed Senedd,” meddai Adam Price mewn llythyr at Alun Lenny a Deris Williams, cadeiryddion Caerfyrddin a Llanelli.
Daw’r newyddion yn dilyn adroddiadau bod aelodau o fewn y Blaid wedi bod yn dyfalu y byddai Adam Price yn dewis sefyll mewn etholaeth yng Nghaerdydd, o ganlyniad i’r rhestr gaeëdig sydd ynghlwm â’r system etholiadol newydd ar gyfer etholiadau’r Senedd yn 2026.
Yn ei lythyr, dywed Adam Price ei fod yn “ddiolchgar iawn am yr ymddiriedaeth y mae aelodau’r blaid ac etholwyr Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi’i roi ynof dros bedwar tymor, yn Nhŷ’r Cyffredin a’r Senedd”.
Bu’n Aelod Seneddol yn San Steffan dros hen etholaeth Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr rhwng 2001 a 2010.
Ers 2016, bu’n Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.
Bu’n arwain y Blaid rhwng 2018 a 2023, cyn ymddiswyddo yn dilyn cyhoeddi adroddiad Prosiect Pawb.
Dywed Adam Price fod y Blaid “wedi cyflawni cerrig milltir pwysig” yng Nghaerfyrddin, wrth sicrhau arweinyddiaeth Cyngor Sir Gâr, ac wedyn buddugoliaeth Ann Davies yn yr etholiad cyffredinol yn 2024.
“Mae’r llwyddiannau hyn yn dyst i ymroddiad ein haelodau, cynrychiolwyr etholedig a gwirfoddolwyr lleol ar draws y sir, yn ogystal â’r undod a ddangoswyd gennym y flwyddyn ddiwethaf,” meddai.
“Bydd yr ysbryd hwn o waith tîm yn ein harwain at lwyddiant yn 2026, ac rwy’n llawn awch a brwdfrydedd am y posibilrwydd o chwarae rhan allweddol yn y tîm buddugol hwnnw.”
‘Cyfuno profiad gydag egni, sgiliau a syniadau newydd’
Wrth nodi ei lwyddiannau fel arweinydd, dywed Adam Price mai ei gamp fwyaf oedd helpu i sicrhau newid i’r system etholiadol yng Nghymru, drwy’r amcan i ddiwygio’r Senedd fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio.
“A thrwy berswadio’r Llywodraeth Lafur — yn erbyn pob disgwyl — i gefnu ar system etholiadol sydd wedi sicrhau eu goruchafiaeth ers 25 mlynedd, rydym wedi paratoi’r ffordd i Blaid Cymru dorri trwodd a ffurfio llywodraeth dan arweiniad Rhun ap Iorwerth, ein darpar Brif Weinidog,” meddai.
O ganlyniad i’r newid yma, meddai Adam Price, mae’r “seithfed Senedd yn cynrychioli cyfle hanesyddol i’n plaid ac i’r mudiad cenedlaethol”.
“Er mwyn bachu’r cyfle hanesyddol hwn, rhaid i ni gynnull tîm o ymgeiswyr ar gyfer y Senedd — ac ar gyfer Llywodraeth Cymru yn y dyfodol — sy’n cyfuno profiad gydag egni, sgiliau a syniadau newydd.
“Yn y bennod nesaf hon, mae’n anrhydedd o’r mwyaf i gynnig rhoi fy mhrofiad fel aelod lleol a’m creadigrwydd ar lefel genedlaethol i wasanaethu pobol Sir Gaerfyrddin unwaith eto, ac i weithio’n ddiflino dros Gymru a’n plaid.
“Byddaf yn gofyn i’r aelodau fy nghefnogi yn yr ymdrech hon.”
Mae golwg360 yn deall nad oes unrhyw benderfyniad wedi cael ei wneud gan Blaid Cymru hyd yma ynglŷn â sut maen nhw am ddewis ymgeiswyr ar gyfer etholaethau yn etholiadau’r Senedd yn 2026.