Bydd arolwg yn dechrau heddiw (dydd Iau, Hydref 30) i wella canol trefi Ynys Môn, ac mae gofyn i berchnogion busnes, trigolion a rhanddeiliaid roi eu hadborth.

Bydd “adborth hanfodol” yn cael ei gasglu yng Nghaergybi, Llangefni, Amlwch, Porthaethwy a Biwmares fel rhan o Strategaeth Gwella Canol Trefi Ynys Môn i fod yn “fannau deniadol a llwyddiannus”.

Mae disgwyl i’r cyfnod ymgynghori bara tair wythnos, gyda’r ymatebion yn helpu i greu gwaelodlin ar gyfer Canol Trefi a Chynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer trefi unigol yn y dyfodol.

Bydd yr adborth hefyd o gymorth wrth adnabod y blaenoriaethau ar gyfer buddsoddiadau cyhoeddus mewn canol trefi a’r stryd fawr drwy gynlluniau cyllid allanol.

Mae’r ymgynghoriad yn rhan o Raglen Creu Lle Da Môn, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Mae hefyd yn rhan o ddarparu Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru ar Ynys Môn.

“Amcan allweddol” y Cyngor

Yn ôl Gary Pritchard, arweinydd Cyngor Ynys Môn a deilydd y portffolio Datblygu Economaidd, mae’r Tîm Adfywio yn “edrych i greu gwaelodlin ar gyfer pob canol tref”.

“Bydd hyn yn darparu’r sylfaen angenrheidiol er mwyn gallu creu cynlluniau Creu Lle yn y dyfodol,” meddai.

“Bydd adborth o’n hymgynghoriadau yn darparu gwybodaeth bwysig ac yn ein galluogi ni i ddeall yr hyn mae gwahanol grwpiau yn ei weld yn werthfawr am eu trefi, pa bryderon sydd ganddyn nhw, a sut y gallwn fynd ati i sicrhau newidiadau cadarnhaol,” meddai.

“Mae hyrwyddo cyfleoedd i ddatblygu economi’r Ynys yn un o’n hamcanion allweddol fel Cyngor.

“Dros amser, gobeithiwn y bydd yr agwedd Creu Lleoedd yn gwneud cyfraniad sylweddol i fywiogrwydd ein canol trefi a pha mor ddeniadol ydyn nhw.”

Bydd yr arolwg ar agor rhwng hyd at Dachwedd 21.