Mae Nia Griffith, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru, yn dweud y bydd “cyfle” i ddadlau dros sicrhau arian HS2 i Gymru rhwng nawr a Chyllideb nesaf Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y gwanwyn.
Wrth siarad â golwg360, dywed fod rhaid edrych ar seilwaith rheilffyrdd y tu allan i brism system ariannu ddatganoledig, gan fod yr arian “yn rhywbeth sylfaenol” i Gymru ei gael.
Er bod y prosiect wedi’i ddisgrifio fel prosiect “Cymru a Lloegr”, fe fu Plaid Cymru’n dadlau y dylai arian ddod i Gymru gan nad oes unrhyw ran o reilffordd HS2 yn dod i Gymru.
‘Nid yw pob penderfyniad wedi cael ei wneud yn y Gyllideb yma’
“Fel mae’r Ysgrifennydd Trafnidiaeth wedi’i ddweud, y ffaith yw ein bod yn ailystyried pob prosiect rheilffordd,” meddai Nia Griffith wrth golwg360.
“Mae hynny’n bwysig iawn, a bydd cyfle i gael mwy o ddadl ynglŷn â beth rydyn ni’n gallu ei ddisgwyl [yma yng Nghymru] ynglŷn â thrafnidiaeth.
“Ond, mae’n bwysig iawn edrych i sicrhau ein bod ni’n cael gwerth am arian.”
Ychwanega nad yw “pob penderfyniad wedi cael ei wneud nawr” yn sgil HS2, ac y “bydd Cyllideb unwaith eto yn y gwanwyn sy’n edrych i fyny at y tair blynedd nesaf”.
Dim addewid o ran ariannu HS2
Yn rhan o’r cyhoeddiadau gan y Canghellor Rachel Reeves ddoe (dydd Mercher, Hydref 30), roedd ymrwymiad i ddechrau palu twnnel i orsaf Euston, ac i adeiladu’r seilwaith rheilffordd rhwng Birmingham ac Old Oak Common.
Ond daw’r problemau hirsefydlog o ran HS2 gan ei fod wedi’i ddatgan yn brosiect “Cymru a Lloegr”, sy’n golygu nad yw Cymru’n derbyn unrhyw arian ychwanegol drwy Fformiwla Barnett.
Mae Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, wedi dweud dros yr wythnosau diwethaf fod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gofyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig am yr arian – ffigwr sy’n agosach at £350m, yn hytrach na’r £4bn sy’n cael ei ddadlau gan Blaid Cymru.
Ond a yw’r ddwy lywodraeth wedi bod yn cyfathrebu â’i gilydd – rhywbeth maen nhw wedi bod yn dadlau fyddai’n gwella gyda dwy Lywodraeth Lafur y naill ben a’r llall i’r M4?
“Bydd cyfle nawr i drafod y peth gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai Nia Griffith.
“Bydd trafodaethau efo’r Ysgrifennydd Cludiant [Trafnidiaeth] achos, wrth gwrs, Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am y rheilffyrdd trwm yng Nghymru.
“Ond mae’n bwysig cael rhan dda o hyn, nid osgoi hyn wrth ddweud fod e ddim yn unig yn consequential i rywbeth.
“Mae [seilwaith rheilffyrdd trwm] yn rhywbeth sylfaenol i ni ei gael.”
Anwiredd
Dywed Nia Griffith na fu’r Ceidwadwyr yn “dweud y gwir” am y £1bn gafodd ei addo i Gymru yn rhan o’u haddewid maniffesto i drydanu rheilffordd y gogledd.
“Doedd dim arian iddo fe, er eu bod nhw wedi gwneud y cyhoeddiad ynglŷn â’r rheilffordd yma yn ystod yr etholiad,” meddai.
Dydy Nia Griffith ddim am gadarnhau a fydd yr arian HS2 i Gymru yn rhan o’r Gyllideb yn y Gwanwyn.
“Dw i ddim yn mynd i ddweud dim byd ar hyn eto yn gynnar, ond mae’n un peth sydd siŵr o fod yn mynd i gael ei ddadlau lot.”
Eluned Morgan wedi “methu prawf” ar HS2
Wrth ymateb i’r diffyg sôn am HS2 yn y Gyllideb, dywed Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, nad yw Eluned Morgan “wedi gwthio’n ddigon caled” ar y mater.
“Honnodd y Prif Weinidog Eluned Morgan ei bod hi’n ‘gwthio’n galed am arian HS2’, ond mae rŵan yn gwbl amlwg na wnaeth hi wthio’n ddigon caled,” meddai.
“Dyma brawf cyntaf arweinyddiaeth y Prif Weinidog – prawf mae hi wedi ei fethu.
“Wrth i Loegr dderbyn addewid o drydaneiddio mwy o’i rheilffyrdd, mae Cymru’n dal i ddioddef isadeiledd yr ugeinfed ganrif – annhegwch nad oes gan Lafur ddiddordeb mewn mynd i’r afael ag o.
“Mae ein cenedl yn dal i aros am y biliynau sy’n ddyledus i ni.
“Dim terfyn ar y Fformiwla Barnett annheg, dim tro pedol ar lwfans tanwydd y gaeaf, dim cynllun i gael gwared ar y cap budd-dal dau blentyn, a dim rhyddhad i fusnesau bach sy’n dioddef dan Lafur yng Nghymru yn barod.”