Mae Cyllideb Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig, sydd bron iawn yn diystyru Cymru’n llwyr, yn dangos bod y Prif Weinidog Eluned Morgan wedi methu prawf cyntaf ei harweinyddiaeth, yn ôl arweinydd Plaid Cymru.
Wrth ymateb i Gyllideb Rachel Reeves, dywed Rhun ap Iorwerth ei bod “yn chwalu unrhyw awgrym” y byddai cael dwy Lywodraeth Lafur, y naill yng Nghaerdydd a’r llall yn San Steffan, o fudd i bobol yng Nghymru.
Er gwaethaf beirniadaeth y gwrthbleidiau, mae Prif Weinidog Cymru wedi croesawu’r Gyllideb, gan ddweud bod y trafodaethau â’r Ceidwadwyr dros y blynyddoedd “wedi bod fel cerdded drwy’r baw”.
“Mae ymgysylltu’n ystyrlon â Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn y broses hon yn dangos unwaith eto fod y Llywodraeth hon yn y Deyrnas Unedig yn parchu datganoli, a’n dwy lywodraeth yn cydweithio i weithredu er lles pobol Cymru,” meddai.
“Roedden ni’n gwybod y byddai’n rhaid gwneud penderfyniadau anodd yn y Gyllideb hon, ond mae Rachel Reeves wedi amlinellu ei chynllun i drwsio seiliau’r economi ac edrych tua’r dyfodol.”
‘Trwsio’r difrod’
Mae Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cyllid Cymru, wedi croesawu’r £1.7bn i Gymru yn y Gyllideb fel “y camau cyntaf i’r cyfeiriad cywir ar ôl 14 mlynedd o gamreoli economaidd” gan lywodraethau San Steffan.
Dywed fod Rachel Reeves yn gwrando ar Gymru drwy fuddsoddi yn niogelwch tomenni glo a chynyddu cyllideb gyfalaf Cymru.
“Mae hon yn Gyllideb sy’n canolbwyntio ar drwsio’r sylfeini, ailadeiladu gwasanaethau cyhoeddus a chreu llwybr buddsoddi ar gyfer twf,” meddai.
“Mae’n nodi’r camau cyntaf i’r cyfeiriad cywir ar ôl 14 mlynedd o gamreoli economaidd gan lywodraethau blaenorol y Deyrnas Unedig a’r effaith y mae eu penderfyniadau wedi’i chael ar bobol a chymunedau.
“Mae’n amlwg fod y Canghellor yn gwrando ynghylch yr hyn sydd ei angen ar Gymru.
“Dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ein blaenoriaethau eraill, gan gynnwys sicrhau cyllid teg ar gyfer y rheilffyrdd.”
Yn dilyn y Gyllideb, mae setliad Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025-26 dros £1bn yn uwch nag y byddai wedi bod o dan Lywodraeth flaenorol y Deyrnas Unedig, yn ôl Llywodraeth Cymru.
Gan gymryd 2024-25 a 2025-26 gyda’i gilydd, mae’r setliad oddeutu £1.7bn yn uwch o’i gymharu â’r hyn y byddai wedi bod, medden nhw.
Roedd Cyllideb y DU yn cynnwys y canlynol ar gyfer Cymru:
- £1.7bn o gyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a buddsoddi cyfalaf yng Nghymru
- £25m i gefnogi buddsoddiad parhaus Llywodraeth Cymru i wneud tomenni glo yn ddiogel
- symud i’r cam nesaf ar gyfer y Porthladd Rhydd Celtaidd, gan ddynodi’r safleoedd treth
- cefnogaeth i brosiectau hydrogen gwyrdd yn Aberdaugleddau a Phen-y-bont ar Ogwr
- dod â’r anghyfiawnder ynghylch cronfa bensiwn glowyr i ben
- cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol i ddegau o filoedd o weithwyr yng Nghymru.
“Mae’r cyllid ychwanegol i’w groesawu, ac er mai nod Cyllideb y Canghellor yw creu twf, mae’r cyd-destun ariannol ehangach yn dal i fod yn anodd,” meddai Mark Drakeford.
“Byddwn yn gwneud ein penderfyniadau gwario wrth inni ddatblygu ein Cyllideb Ddrafft yn yr wythnosau i ddod.”
‘Cymru’n haeddu cymaint gwell’
Ond yn ôl Rhun ap Iorwerth, mae pobol yng Nghymru’n “haeddu llawer gwell” na’r hyn sydd wedi’i gynnig yng Nghyllideb y Canghellor.
“Ni fydd pobol yn cael eu twyllo gan honiad y Canghellor fod y Gyllideb hon yn newyddion da i Gymru,” meddai.
“Mae’r gyllideb Gymreig ar gyfer eleni eisoes yn werth £700m yn llai mewn termau real, ac mae ein cynghorau yn wynebu bwlch cyllido o dros £500m.
“Honnodd y Prif Weinidog Eluned Morgan ei bod hi’n ‘gwthio’n galed am arian HS2’, ond mae rŵan yn gwbl amlwg na wnaeth hi wthio’n ddigon caled.
“Dyma brawf cyntaf arweinyddiaeth y Prif Weinidog – prawf mae hi wedi ei fethu.
“Wrth i Loegr dderbyn addewid o drydaneiddio mwy o’i rheilffyrdd, mae Cymru’n dal i ddioddef isadeiledd yr ugeinfed ganrif – annhegwch nad oes gan Lafur ddiddordeb mewn mynd i’r afael ag o.
“Mae ein cenedl yn dal i aros am y biliynau sy’n ddyledus i ni.
“Dim terfyn ar y Fformiwla Barnett annheg, dim tro pedol ar lwfans tanwydd y gaeaf, dim cynllun i gael gwared ar y cap budd-dal dau blentyn, a dim rhyddhad i fusnesau bach sy’n dioddef dan Lafur yng Nghymru yn barod.
“Ar ôl 14 mlynedd o lymder y Torïaid, mae Cymru yn haeddu cymaint gwell na hyn.
“Roedd gan y Canghellor gyfle i ddewis trywydd newydd, ond mae hi wedi chwalu unrhyw awgrym fod cael dwy lywodraeth Lafur yn gweithio gyda’i gilydd yn elwa pobol Cymru go iawn.”