Mae Cyllideb Canghellor San Steffan “yn gadael pobol hŷn Cymru allan yn yr oerfel”, yn ôl Age Cymru.
Dywed yr elusen eu bod nhw’n “hynod siomedig” ynghylch diffyg mesurau a chefnogaeth ariannol i filoedd o bobol oedrannus yng Nghymru nad ydyn nhw bellach yn gymwys i dderbyn Taliad Tanwydd y Gaeaf.
Roedd y taliad ymhlith galwadau Plaid Cymru ar drothwy’r Gyllideb, ond dydy hi ddim yn ymddangos y bydd Llywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig yn gwneud tro pedol.
Dywed yr elusen y byddan nhw’n “parhau i ymgyrchu am ragor o gefnogaeth ariannol” gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig “i’r bobol hŷn hynny sy’n colli allan ac sy’n methu fforddio” colli allan.
Byddan nhw hefyd yn ymgyrchu o blaid ehangu’r budd-daliadau sydd angen i rywun eu derbyn er mwyn bod yn gymwys ar gyfer Taliad Tanwydd y Gaeaf, fel eu bod yn cynnwys:
- budd-dal tai
- cymorth treth gyngor
- lwfans gweini
- taliad annibyniaeth personol
- lwfans gofalwr
Hyd yn oed o wneud hynny, byddai rhai pobol yn cael eu hepgor o hyd, meddai’r elusen.
Er mwyn mynd i’r afael â hynny, maen nhw’n annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i archwilio sut y byddai modd defnyddio data er mwyn adnabod pobol ar incwm isel ac ymestyn Taliad Tanwydd y Gaeaf iddyn nhw’n ddiofyn.
“Rydym yn croesawu’r cyllid ychwanegol ar gyfer y Gronfa Cymorth Aelwydydd, ac yn edrych ymlaen at weld sut mae hyn yn cael ei drosi’n gefnogaeth ar gyfer pobol hŷn yng Nghymru,” meddai llefarydd.