Mae Llafur Cymru’n brolio ymrwymiad yng Nghyllideb Canghellor San Steffan i ddychwelyd pensiwn dyledus gwerth £1.5bn i gyn-lowyr a’u teuluoedd.
Mae hyn yn golygu hwb o 32% i’w pensiynau – neu £29 yr wythnos, yn ôl Ed Miliband, Ysgrifennydd Ynni San Steffan,
Cafodd cronfa wrth gefn ei sefydlu yn 1992 gan ddefnyddio elw o’r cynllun, er mwyn rhoi sicrwydd rhag ofn y byddai Cynllun Pensiwn y Glowyr yn mynd i ddiffyg, ac roedd disgwyl i’r arian gael ei ddychwelyd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn 2029.
Fe fu glowyr a’u teuluoedd yn brwydro ers blynyddoedd lawer i gael dychwelyd yr arian iddyn nhw, ac mae’n cael ei alw’n “anghyfiawnder hanesyddol” gan Lafur Cymru.
Pan gafodd Glo Prydain ei breifateiddio yn 1994, fe wnaeth y Llywodraeth gytuno i gymryd hanner yr elw o’r cynllun pensiwn, yn gyfnewid am sicrwydd y byddai pensiynau’n codi yn unol â chwyddiant.
Dydy’r llywodraeth erioed wedi talu i mewn i’r cynllun, ac mae wedi parhau’n gryf.
Yn sgil y Gyllideb, mae’r llywodraeth wedi ymrwymo i adolygu’r cytundeb er mwyn sicrhau cytundeb tecach i gyn-lowyr a’u teuluoedd yn y dyfodol.
Bydd y camau nesaf yn cael eu hamlinellu dros y misoedd nesaf.
‘Dyled’
Yn ôl Ed Miliband, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “ddyledus” ac yn “ddiolchgar” i gymunedau glofaol.
“Ers degawdau, bu’n sgandal fod y llywodraeth wedi tynnu arian allan allai fod wedi cael ei drosglwyddo i’r glowyr a’u teuluoedd,” meddai.
“Heddiw, daw’r sgandal i ben ac mae’r arian, yn hollol gyfiawn, yn cael ei drosglwyddo i’r glowyr.
“Dw i’n talu teyrnged i’r ymgyrchwyr sydd wedi brwydro dros gyfiawnder – heddiw yw eu buddugoliaeth.”
Un fu’n ymgyrchu yw Nick Smith, Aelod Seneddol Blaenau Gwent a Rhymni.
“Dw i’n dod o deulu o lowyr,” meddai.
“Dw i’n gwybod pa mor bwysig yw rhoi hyn yn iawn.
“Dyna pam dw i wedi ymgyrchu ers cyhyd ar y mater hwn.
“Bydd y cyhoeddiad heddiw’n gwneud gwahaniaeth mawr i gynifer o bobol ar draws ein cymoedd, ac mae’n enghraifft arall o’n Llywodraeth Lafur yn rhoi ein hegwyddorion ar waith i wella bywydau.”