Mae’r economegydd Dr John Ball yn dweud ei fod “wedi synnu” gan Gyllideb y Canghellor Rachel Reeves, ac yn enwedig yn sgil ei “hamherthnasedd” i Gymru.

Wrth siarad â golwg360, dywed y cyn-ddarlithydd fod “yr holl beth am Loegr” ac “er budd gwleidyddol y Blaid Lafur yn Lloegr”.

Yn y Gyllideb Lafur gyntaf ers 14 o flynyddoedd, cyhoeddodd Rachel Reeves gynnydd yng nghyfraniadau cyflogwyr at Yswiriant Gwladol eu gweithwyr, cynnydd yn y Dreth Enillion Cyfalaf (Capital Gains), ac ymrwymiad i gyflwyno mwy o wasanaethau trên mewn ardaloedd penodol.

Ond dydy Dr John Ball ddim yn credu y bydd y cyhoeddiau hyn yn cael rhyw lawer o effaith ar Gymru.

“Roedd hi’n hynod arwyddocaol bod y cyhoeddiadau mwyaf – ar wariant, ar drethi, ac yn y blaen – yn berthnasol i Loegr yn bennaf,” meddai wrth golwg360.

“Roedd hi’n amlwg fod penderfyniadau yn y Gyllideb wedi’u gwneud er budd gwleidyddol y Blaid Lafur yn Lloegr.”

Dywed nad yw’n credu y bydd Llywodraeth Cymru’n derbyn arian canlyniadol er mwyn cydbwyso’r gwariant gafodd ei gyhoeddi ar gyfer y system drenau yn Lloegr.

Fe fu ffrae ers cryn amser am yr arian ychwanegol sy’n ddyledus i Gymru yn sgil gwariant ar brosiect HS2 yn Lloegr.

Dydy e ddim yn credu y bydd llawer o newidiadau yn sgil y cynnydd yng nghyfraniad cyflogwyr at Yswiriant Gwladol eu gweithwyr chwaith.

“Mae llawer o ffwdan wedi bod am hyn,” meddai.

“Ond dydy codiad o ryw 1% i bob person sy’n derbyn cyflog sydd dal i fod uwchben trothwy incwm penodol yn ddim byd, mewn gwirionedd.”

“Mân sylw” i Gymru

Mae Dr John Ball yn cydnabod fod y Canghellor wedi rhoi “mân sylw” i faterion yng Nghymru, ond “dyna’i diwedd hi”.

Bydd y Trysorlys yn diwygio’r Fformiwla Barnett er mwyn gwneud £1.7bn ychwanegol ar gael i Lywodraeth Cymru – y cynnydd mwyaf yn hanes datganoli, medden nhw.

Ond dydy’r economegydd ddim yn credu bod llawer i’w ganmol am y cynnydd hwn.

“Ddylen ni ddim diystyru’r £1.7bn sydd wedi’i addo i Lywodraeth Cymru, ond mae hynny’n fwy o siec wag na dim byd arall,” meddai.

Mae’r Llywodraeth hefyd wedi cyhoeddi nifer o brosiectau trydan hydrogen ledled y wlad er mwyn cefnogi cynhyrchu hydrogen mewn modd carbon-isel.

Bydd dau o’r prosiectau hyn yng Nghymru – yn Aberdaugleddau a Phen-y-Bont.

Ond dydy Dr John Ball ddim yn hyderus y bydd y cyhoeddiadau hyn yn cael ryw lawer o effaith ar economi leol yr ardaloedd hyn.

“Mae’n ddrwg gen i am fod yn sinigaidd, ond does dim ffydd gen i o gwbl yn y prosiectau hydrogen,” meddai.

“Dim ond cyhoeddiad gawson ni ar gyfer y cynlluniau hyn.

“Roedd ryw rifau amwys am nifer y swyddi fyddai’n cael eu cyflwyno, ond y gwir ydy fy mod i’n amheus iawn y bydd y cynllun hwn yn cael unrhyw effaith ar yr economi.”

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru

Mae Dr John Ball yn gweld gwerth yn y £25m gafodd ei glustnodi gan y Canghellor i amddiffyn y cyhoedd rhag hen domenni glo yng Nghymru.

Ond dywed mai cyfrifoldeb datganoledig Llywodraeth Cymru ydy gwarchod tomenni glo, ac felly nad oes disgwyl i’r Trysorlys yn Llundain ddarparu’r arian ar ei gyfer.

“Dylai Llywodraeth Cymru fod wedi gwario’r swm hwnnw eisoes,” meddai.

“£25m oedd cost arbrawf Mark Drakeford ag incwm sylfaenol cyffredinol.

“Pam na chafodd yr arian hwnnw ei ddefnyddio er mwyn datrys problem y tomenni glo’n gynt?”

Rheolau benthyg arian

Er gwaetha’r amheuon, mae Dr John Ball yn teimlo’n hynod gadarnhaol am un agwedd ar y Gyllideb yn benodol.

“Mae’r cyhoeddiad y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ymrwymo i fenthyg er mwyn gwario ar gyfalaf yn unig, ac nid ar gyfer gwariant bob dydd, yn addawol iawn,” meddai.

“Bydd hyn yn sicrhau na fydd y Llywodraeth yn esgeulus wrth wario, fel mae llywodraethau blaenorol wedi bod.”

Mae’r Llywodraeth yn gobeithio y bydd benthyg er mwyn buddsoddi, a chreu twf economaidd fydd yn eu galluogi nhw i dalu eu dyledion, yn rhwystro diffyg ariannol y Deyrnas Unedig rhag tyfu ymhellach.

Ond mae’r economegydd yn rhybuddio bod amcan y Llywodraeth i geisio cytbwyso’r Gyllideb o fewn tair blynedd yn “amhosib”.

“Does dim un llywodraeth ers 1945 wedi llwyddo i gytbwyso’r Gyllideb,” meddai.

“Mae hynny’n nonsens.”

Y Gyllideb: Busnesau bach yn cael eu hystyried yn “piggy banks”, medd economydd

Rhys Owen

Dr Edward Jones o Brifysgol Bangor sy’n pwyso a mesur y Gyllideb a’i gwerth i Gymru

Cymru’n derbyn £1.7bn ychwanegol yn y Gyllideb

Mae Rachel Reeves, Canghellor benywaidd cyntaf San Steffan, wedi cyhoeddi Cyllideb gynta’r Blaid Lafur ers 14 o flynyddoedd