Mae’r Athro Edward Jones, darlithydd Economeg ym Mhrifysgol Bangor, yn dweud bod y Gyllideb gafodd ei chyhoeddi heddiw (dydd Mercher, Hydref 30) yn gwneud i rywun feddwl bod busnesau bach yn cael eu hystyried yn “piggy banks” i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Mae hefyd credu y bydd yr £1.7bn fydd yn dod i Gymru o ganlyniad i Fformiwla Barnett “yn cael ei groesawu” gan Lywodraeth Cymru, ond dim ond am mai’r un blaid wleidyddol sydd mewn grym yma ag sydd yn llywodraethu yn San Steffan.
Wrth siarad â golwg360, dywed ei fod yn credu bod y marchnadoedd sydd yn benthyg arian i’r llywodraeth i’w “gweld yn weddol hapus” ar hyn o bryd, ond y bydd hyn yn newid pe bai’r buddsoddiad yn cael ei wastraffu.
Ychwanega ei fod yn rhoi saith allan o ddeg i’r Canghellor Rachel Reeves ar gyfer y Gyllideb.
‘Dim digon i Gymru’
Wrth gyhoeddi ei Chyllideb, cadarnhaodd Rachel Reeves y bydd £1.7bn ar gael i Lywodraeth Cymru o ganlyniad i wariant yn Lloegr, drwy system ariannu Fformiwla Barnett.
Mae gan Lywodraeth Cymru gyllideb o £26.4bn ar gyfer y flwyddyn ariannol 2024-25.
Doedd dim sôn am arian ychwanegol o ganlyniad i HS2, fel roedd Plaid Cymru a chyn-weinidogion Llafur yn galw amdano.
Ond roedd addewid o £25m i helpu i ddiogelu hen domenni glo.
Dywed Edward Jones ei bod “yn debyg” y bydd yr arian “yn cael ei groesawu” gan Lywodraeth Cymru, ond hynny gan fod llywodraethau o’r un lliw y naill ochr a’r llall i’r M4.
Ychwanega nad yw’n credu bod y ffigwr yn ddigon, a hynny o ystyried yr “heriau sydd yn ein hwynebu yma yng Nghymru ar y funud”.
Croesawu “bod yn agored”
Dywed Edward Jones fod y Gyllideb wedi derbyn mwy o sylw nag unrhyw Gyllideb arall ers tua ugain mlynedd, gyda marchnadoedd, sylwebyddion a’r cyhoedd yn ceisio rhagweld beth fyddai cynnwys y datganiad ariannol.
Dywed fod hyn yn rhan o’r rheswm dros benderfyniad y Canghellor Rachel Reeves i aros tan bod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cyhoeddi eu hadroddiad nhw yn cadarnhau’r “twll du o £22bn” gafodd ei adael gan y Ceidwadwyr.
“Dw i’n gwybod dydy’r Torïaid ddim yn hapus efo hyn, gan eu bod nhw’n ei weld o fel gêm wleidyddol,” meddai wrth golwg360.
“Ond dw i’n meddwl bod rhaid i ni fod yn agored efo pobol am y sefyllfa.”
“Buddsoddi, buddsoddi, buddsoddi?”
O ran y rhagolygon economaidd ar gyfer y pum mlynedd nesaf, dywed Edward Jones nad ydyn nhw’n “edrych yn hollol wych”.
Yn ôl y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, mae disgwyl i chwyddiant godi i 2.68% erbyn canol 2025, a disgyn yn ôl i 2% erbyn cychwyn y degawd nesaf.
O ran twf – rhywbeth sydd ar frig agenda’r Blaid Lafur ers yr etholiad cyffredinol ar Orffennaf 4 – mae disgwyl i’r economi dyfu 9.6% erbyn diwedd 2029.
Mae’r ffigwr hyn 0.1% yn is na phe bai’r Llywodraeth wedi parhau ar yr un trywydd.
Dywed Rachel Reeves y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn “buddsoddi, buddsoddi, buddsoddi” fel rhan o’r Gyllideb.
“Os dw i eisiau sgorio Rachel Reeves ar hynna, dw i ddim yn meddwl ’swn i’n ei sgorio hi’n uchel, oherwydd y teimlad dw i’n cael efo’r Gyllideb yw bod busnesau wedi cael eu taro’n galed,” meddai Edward Jones wedyn.
Cynyddu Yswiriant Gwladol “yn dipyn o ergyd” i fusnesau
Un elfen o’r Gyllideb gafodd ei ‘threialu’ yn y rhagolygon oedd y cynnydd yng nghyfraniadau cyflogwyr, hynny yw busnesau, at Yswiriant Gwladol.
Bydd busnesau bellach yn talu 15%, i fyny o 13.8%, ar gyflogau yn dechrau o £5,000 y flwyddyn, i lawr o £9,100.
Yn ôl Rachel Reeves, bydd hyn yn codi £25bn allan o’r £40bn sydd ei angen i lenwi’r gwastad ariannol.
Wrth siarad â golwg360, dywed Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru fod hon yn “dreth ar swyddi”.
Yn ôl Dr Edward Jones, mae’r cynnydd “yn dipyn o ergyd” i fusnesau, yn enwedig o ystyried y cynnydd yn hawliau gweithwyr sydd am gostio hyd at £5bn ar y cyd, a’r cynnydd yn y lleiafswm cyflog i £12.21 yr awr i weithwyr 21 oed a hŷn.
“Mae rhywun yn teimlo bod busnesau wedi cael eu cymryd i fod yn piggy banks, ac maen nhw’n cymryd yr hit, fel petai”.
‘Rhaid annog pobol ifanc i gychwyn busnes, nid eu gwthio nhw i ffwrdd’
Hefyd yn codi mae Treth Enillion Cyfalaf (Capital Gains Tax), sef y dreth ar yr elw o unrhyw beth sydd wedi cynyddu mewn gwerth, fel eiddo a busnesau.
Fe fu adroddiadau’n ddiweddar fod pobol ifanc yn dewis creu busnesau mewn gwledydd fel Portiwgal, lle mae’r Dreth Enillion Cyfalaf wedi’i gostwng er mwyn denu mwy o bobol ifanc o dramor i’r wlad.
Yn ôl y Gyllideb hon, bydd cyfranddaliadau ar y band isaf yn cynyddu o 10% i 18%, gyda’r band uchaf yn codi o 24% i 28%.
“Dw i’n nabod pobol lawer ifancach na fi sydd yn dechrau busnesau, ac oherwydd maen nhw’r math o fusnesau ar-lein, maen nhw wedi symud i Bortiwgal i fyw oherwydd y system drethi yn fan’na,” meddai Edward Jones.
“Os ydan ni’n meddwl amdan beth sydd am yrru’r economi ymlaen, be ydan ni ei angen ydy pobol ifanc i ddechrau’u busnesau eu hunain ac iddyn nhw dyfu.”
Ychwanega fod yna gwestiwn mawr o ran ble mae’r bobol yma yn mynd ac, o safbwynt Cymru, a fyddan nhw’n dewis dychwelyd i Gymru yn y dyfodol.