Mae Siân Gwenllian yn dweud bod “rhai elfennau” o’r Gyllideb mae sôn amdanyn nhw ar drothwy’r cyhoeddiad heddiw (dydd Mercher, Hydref 30) yn “bryderus”.
Bydd Rachel Reeves, Canghellor San Steffan, yn cyhoeddi ei Chyllideb gyntaf am 12.30yp.
Ymhlith y polisïau tebygol mwyaf dadleuol mae cynyddu cyfraniadau cyflogwyr at Yswiriant Gwladol.
Ar hyn o bryd, mae cwmnïau yn talu 13.8% ar gyflogau gweithwyr dros £175 yr wythnos.
Yn ôl adroddiadau, bydd cyfran yr Yswiriant Gwladol sy’n cael ei dalu gan gyflogwyr yn cynyddu o leiaf 2%, fydd yn codi tua £18bn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Mae’r ochr Yswiriant Gwladol i gyflogwyr yn bryderus oherwydd mae busnesau bach yn asgwrn cefn yn economi ni yma yng Nghymru,” meddai Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon.
Yng Nghymru, mae tua 62.5% o bobol yn gweithio i fusnesau bach, ac mae’r busnesau eu hunain yn gyfrifol am 42.5% o gyfanswm trosiant y wlad.
‘Treth ar swyddi’
Yn ôl Fflur Elin, Pennaeth Materion Cyhoeddus Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, bydd unrhyw gynydd mewn Yswiriant Gwladol i fusnesau “yn dreth ar swyddi”.
“O’n persbectif ni, fyddai unrhyw Drysorlys fyddai eisiau gweld twf economaidd ddim yn codi treth ar greu swyddi,” meddai wrth golwg360.
Mae’r Canghellor Rachel Reeves wedi dweud yn gyson mai’r Blaid Lafur yw plaid “twf” gwledydd Prydain.
Ac yn fuan ar ôl cael ei phenodi, dywedodd fod sicrhau twf yn “genhadaeth genedlaethol.”
Er gwaetha’r rhethreg, dydy Fflur Elin ddim yn gweld sut mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig am gyflawni’r genhadaeth hon.
“Y peryg yw, os mae hi’n ddrutach i fusnesau bach i gyflogi, neu hyd yn oed i gadw staff, mae hynny’n mynd i amharu ar y gallu i dyfu ac i ehangu’r busnes,” meddai.
Ychwanega nad yw hi na Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru “eisiau achosi panig”, ond ei bod hi’n “rhesymol dweud os ydi cost cyflogi yn codi, yna mae’n rhaid i fusnesau edrych ar y fantolen ac ailfeddwl pan mae o’n dod i swyddi.”
Ond i Siân Gwenllian, mae’n rhaid gofalu rhag rhoi cymaint o bwysau ariannol ar fusnesau bach, yn enwedig rhai gwledig.
“Dw i’n gwybod yma yng Ngwynedd pa mor bwysig ydi busnesau bach i’r economi, ac yn enwedig yr economi wledig,” meddai.
“Mae’r busnesau yma yn cefnogi’i gilydd a’r sector cyhoeddus – ac mae eu cefnogi nhw yn angenrheidiol.
“Ac os ydi’r Yswiriant Gwladol yma yn codi, bydd rhaid i’r busnesau yma godi arian drwy gynyddu prisiau, neu efallai cyflogi llai o staff.”
‘Cau’r bwlch’
Ychwanega Siân Gwenllian y dylai’r gyllideb “fod yn trio cau’r bwlch yma rhwng y rhai hynod, hynod o gyfoethog a gweddill y boblogaeth.”
“Mae’r bwlch cyfoeth yn y Deyrnas Unedig yn warthus, ac yn un o’r rhai mwyaf yn y byd datblygedig,” meddai.
“Bydda i’n sbïo ar (y Gyllideb) o safbwynt be’ sydd ar gael i Gymru.
“A dw i eisiau gweld y dadansoddiad o sut mae o’n mynd i effeithio ar economi a bywydau pobol yng Nghymru.”
Fe fu Plaid Cymru’n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu mewn pum maes penodol yn y Gyllideb, sef:
- ailddiffinio HS2 fel prosiect Lloegr yn unig, a bod Cymru’n derbyn y £4bn sy’n ddisgwyliedig o ganlyniad
- cael gwared ar Fformiwla Barnett, a phennu fformiwla newydd sy’n seiliedig ar anghenion
- datganoli Ystâd y Goron i Gymru
- cael gwared ar y cap sydd ar fudd-daliadau i deuluoedd â mwy na dau blentyn
- adfer taliadau tanwydd y gaeaf.
‘Cyfle i ddechrau trwsio llanast y Ceidwadwyr’
Yn y cyfamser, mae Jane Dodds, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, yn dweud bod y Gyllideb heddiw’n “gyfle i ddechrau trwsio llanast y Ceidwadwyr”.
“Mae rhestrau aros i’r entrychion ar hyn o bryd yn atal miloedd o bobol rhag derbyn gofal iechyd sydd ei angen ar frys arnyn nhw, tra bod cyfraddau busnes sydd allan o reolaeth yn rhoi pwysau diangen ar ein busnesau lleol,” meddai.
“Rydan ni eisiau rhagor o arian i’n Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’n gwasanaethau gofal cymdeithasol sy’n ei chael hi’n anodd, fel y gall pobol Cymru gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd lle bynnag a phryd bynnag mae eu hangen nhw arnyn nhw.
“Rydan ni eisiau gweld baich unrhyw gynnydd mewn trethi’n cwympo ar y banciau mawr, diwydiannau tanwydd ffosil a chwmnïau technoleg mawr, nid ar ein busnesau bach.
“Drwy gyflwyno Cyllideb sy’n gweithio i bobol Cymru, un fydd yn cefnogi’n gwasanaethau cyhoeddus a’n heconomi, gallwn ni ddechrau ailadeiladu ein heconomi ar gyfer dyfodol mwy llewyrchus.”