Bydd gwaith cadwraeth i ddiogelu ysbyty chwarel yn Nyffryn Ogwen yn dechrau’n fuan.
Fis Tachwedd, bydd tua saith mis o waith yn dechrau ar Ysbyty Chwarel y Penrhyn, gan ganolbwyntio ar atal dirywiad pellach a gwneud y safle’n fwy diogel a sefydlog.
Mae’r gwaith yn cynnwys sefydlogi a chryfhau cyflwr y waliau, rheoli twf llystyfiant a gwarchod y manylion pensaernïol a hanesyddol sydd dal yno, ymysg pethau eraill.
Wedi’i adeiladu yn y 1840au, yn Ysbyty Chwarel y Penrhyn fyddai chwarelwyr oedd wedi’u hanafu yn cael eu trin.
Mae’r ysbyty’n agos at lwybr beics Lôn Las Ogwen, ac mae Cyngor Gwynedd yn dweud na fydd y gwaith yn effeithio ar fynediad at y llwybr.
Mae’r cam yn dilyn rhaglen o waith cofnodi a gwaith brys, gan gynnwys gwaith maen, gafodd ei wneud yn gynharach eleni.
Yn ôl Cyngor Gwynedd, bydd y gwaith o sicrhau bod y strwythur yn ddiogel hefyd yn caniatáu cynnal a chadw parhaus yn y dyfodol.
“Bydd y gwaith hanfodol hwn yn diogelu’r heneb ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gan hwyluso gwell cyfleoedd ar gyfer mynediad a dehongli’r safle poblogaidd hwn,” meddai Nia Jeffreys, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros yr Economi a Chymuned.
‘Ymyrraeth ar adeg dyngedfennol’
Mae’r prosiect yn bartneriaeth rhwng Cyngor Gwynedd, Welsh Slate a Cadw fel rhan o gynllun Llewyrch o’r Llechi, sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Recclesia Ltd, contractwr sydd â phrofiad o gadwraeth adeiladau hanesyddol, sydd wedi cael eu penodi i ymwneud â’r gwaith, dan oruchwyliaeth y penseiri cadwraeth Donald Insall Associates.
“Mae’r gwaith cadwraeth yn cael ei wneud ar adeg dyngedfennol yn hanes yr adeilad; amlygodd y gwaith o dynnu’r llystyfiant gyflwr bregus ffabrig yr adeilad ac, heb yr ymyrraeth hon, byddai’n debygol o ddirywio’n gyflym, gan wneud y strwythur yn anniogel ac yn y pen draw yn arwain at iddo gwympo,” meddai Elgan Jones o Donald Insall Associates.
“Rydym yn falch iawn o weithio ochr yn ochr â thîm prosiect angerddol sydd â nod cyffredin i ddiogelu’r ffabrig a gwarchod y manylion pensaernïol a hanesyddol, sy’n adrodd hanes ei ddefnydd a’i rôl flaenorol yn y dirwedd lechi ehangach.”
‘Hanfodol i adrodd hanes gofal iechyd’
Mae’r chwarel a’r ysbyty yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi gogledd-orllewin Cymru, a bydd rhaglen fuddsoddi Llewyrch y Llechi’n golygu bod £27m yn cael ei wario yn ardaloedd Llanberis, Bethesda a Blaenau Ffestiniog.
“Mae stori iechyd a lles yn y dyffrynnoedd llechi yn rhan hanfodol a diddorol o’i hanes,” meddai’r Arglwydd Dafydd Wigley, cadeirydd Bwrdd Partneriaeth Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Llechi gogledd-orllewin Cymru.
“Roedd y chwarelwyr yn arloeswyr pan ddaeth hi i ofal cymdeithasol, ac arweiniodd yr ysbytai hyn y ffordd mewn llawer o’r triniaethau a’r feddyginiaeth yr ydym yn dibynnu gymaint arnynt yn y gwasanaeth iechyd heddiw.
“Mae diogelu’r strwythur hwn yn hanfodol wrth adrodd hanes gofal iechyd ar draws y Safle Treftadaeth y Byd.
“Mae gennym Ysbyty Chwarel Dinorwig yn Llanberis sydd wedi’i ailagor fel amgueddfa ac Ysbyty Chwarel Ffestiniog sydd wedi bod yn dŷ preifat ers tro, felly mae sicrhau bod Ysbyty Chwarel y Penrhyn yn gallu cyfleu hanes ei leoliad drwy ddiogelu’r strwythur a chynnwys dehongli yn arbennig iawn.”