Mae’r elusen Beat yn rhybuddio bod nifer o bobol o Gymru sydd ag anhwylderau bwyta yn gorfod teithio i Loegr i dderbyn triniaeth.

Yn ôl adroddiad diweddar gan yr elusen, mae 26 oedolyn sy’n byw yng Nghymru wedi gorfod derbyn triniaeth ar gyfer eu hanhwylderau yn Lloegr, a hynny oherwydd diffyg gofal arbenigol priodol yr ochr yma i’r ffin.

Mae’r elusen yn amcangyfrif bod hyn wedi costio dros £2.5m i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, sy’n sylweddol uwch na’r holl wariant ar wasanaethau arbenigol yn y gymuned i drin anhwylderau bwyta.

Yn ôl Beat, salwch meddwl yw anhwylder bwyta, a does dim symptomau corfforol bob tro ac maen nhw’n gallu effeithio ar unrhyw unigolyn, waeth beth fo’u cefndir neu nodweddion.

Un uned yng Nghymru “ddim yn ddigon”

Mae Beat yn pwysleisio ei bod hi’n bosib i unigolion wella o’u hanhwylder bwyta.

Ond yng Nghymru, dim ond un bwrdd iechyd sy’n darparu’r gofal mae’r elusen yn argymell y dylai bob un plentyn ac oedolyn sy’n dioddef ag anhwylderau bwyta dwys ei dderbyn.

Mae’r elusen yn dadlau y dylai darpariaeth safonol gynnwys o leiaf dair awr o gyswllt proffesiynol yr wythnos, goruchwyliaeth dros brydau bwyd, a’r gallu i newid dwysedd yr ymyrraeth yn ddibynnol ar anghenion y claf.

Mae’r uned yn ne Cymru’n bodloni’r gofynion hyn, ond darparu cymorth i gleifion o fewn waliau’r ysbyty yn unig mae’r uned, yn hytrach nag yn y gymuned ac o ddydd i ddydd.

Mae hyn yn golygu bod nifer o gelifion yn gorfod aros dros nos, ymhell o’u teuluoedd.

Yn ogystal, menywod yn unig sy’n medru mynychu’r uned, sy’n golygu bod yn rhaid i bob dyn ag anhwylder bwyta dwys deithio i Loegr i dderbyn triniaeth.

Mae 25% o bobol ag anhwylderau bwyta yn ddynion, yn ôl ymchwil yr elusen, sy’n dadlau nad yw’r hyn sy’n cael ei ddarparu gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru’n ddigon.

‘Hollol anghyfiawn’

Yn ôl Jo Whitfield, arweinydd cenedlaethol Beat yng Nghymru, mae’r ddarpariaeth bresennol yn “hynod siomedig”.

“Mae diffyg mynediad at driniaeth ddyddiol neu driniaeth yn y gymuned nid yn unig yn amharu ar gleifion, mae hefyd yn costio miliynau i’r Gwasanaeth Iechyd,” meddai.

Mae Dr Isabella Jurewicz, cadeirydd Adran Anhwylderau Bwyd Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru, hefyd wedi mynegi pryder am gasgliadau’r adroddiad.

“Mae canfyddiadau’r adroddiad hwn yn ei gwneud hi’n glir bod nifer hollol anghyfiawn o gleifion yng Nghymru yn gorfod teithio’n bell o’u cartrefi er mwyn derbyn triniaeth,” meddai.

“Mae hefyd yn gostus, yn hirfaith, ac yn effeithio teuluoedd ymhellach.”

Ymyrraeth yn y gymuned

Mae Beat yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru a’r byrddau iechyd yng Nghymru fuddsoddi mewn gwasanaethau ymyrraeth yn y gymuned neu driniaethau dyddiol.

Mae’r rhain, yn ôl eu hadroddiad, yn llai costus i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ac yn medru lleihau nifer y cleifion sy’n gorfod derbyn gofal yn y ysbyty, yn ogystal â hyd eu harhosiad.

Maen nhw hefyd yn fwy deniadol i deuluoedd a gofalwyr y cleifion, fydd ddim yn gorfod teithio er mwyn gofalu amdanyn nhw.

Mae Dr Isabella Jurewicz yn cytuno ag argymhelliad yr adroddiad, meddai.

“Mae angen buddsoddiad hirdymor mewn triniaethau yn y gymuned, fel bod cleifion yn medru bod yn ymyl eu hanwyliaid tra’u bod nhw’n derbyn y driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw.”

  • Os ydych chi neu rywun rydych yn eu hadnabod yn byw ag anhwylder bwyta, cysylltwch â Beat ar 0808 801 0677 or beateatingdisorders.org.uk am gymorth, cyngor neu wybodaeth.