Mae’r datblygiadau diweddaraf yn Southport yn “bryder mawr”, medd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.
Fe ddaeth i’r amlwg bellach fod Axel Rudakubana, yr unigolyn deunaw oed sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio tair merch fach yn Southport, hefyd wedi’i gyhuddo o drosedd frawychol, sef creu’r gwenwyn risin a bod ag astudiaeth filwrol o al-Qaeda yn ei feddiant.
Mae wedi’i gyhuddo hefyd o fod â dogfen PDF yn ei feddiant allai gynorthwyo unigolyn i baratoi gweithred frawychol.
Cafwyd hyd i’r holl ddeunyddiau wrth gynnal archwiliad o gartref Rudakubana, sy’n hanu o Gaerdydd.
Bydd yn mynd gerbron ynadon Westminster fory (dydd Mercher, Hydref 30).
Dywed Heddlu Glannau Mersi fod eu hymchwiliad i lofruddiaeth y tair merch ar Orffennaf 29 yn parhau, ond dydy’r heddlu gwrth-derfysgaeth ddim wedi datgan digwyddiad brawychol.
Does dim lle i gredu bod y gwenwyn wedi cael ei ddefnyddio wrth ymosod ar y merched, gafodd eu trywanu.
Does dim angen canfod rheswm am y cyhuddiadau ychwanegol, ond mae angen rheswm er mwyn pennu’r digwyddiad fel un brawychol.
Cyhuddiadau
Mae Axel Rudakubana wedi’i gyhuddo o lofruddio Bebe King (chwech oed), Elsie Dot Stancombe (saith oed) ac Alice da Silva Aguiar (naw oed) mewn gwers ddawns.
Mae hefyd wedi’i gyhuddo o ddeg achos o geisio llofruddio, ac o fod â chyllell yn ei feddiant.
Mae disgwyl i’r achos llys ddechrau ym mis Ionawr.
Tra bod Downing Street yn dweud bod eu meddyliau gyda theuluoedd y merched o hyd, dywed Andrew RT Davies fod y sefyllfa’n achosi “pryder mawr”.
“Am fisoedd, dywedwyd wrthym nad oedd hwn yn ddigwyddiad brawychol,” meddai.
“Wrth gwrs, mae’n rhaid dilyn prosesau cyfreithiol, ond bydd unrhyw awgrym o gelu yn difrodi ymddiriedaeth yn ddifrifol.
“Rhaid i Keir Starmer egluro ar frys beth roedd e’n ei wybod, a phryd.”