Mae llanc 17 oed sy’n hanu o Gaerdydd wedi bod gerbron llys yn Lerpwl i wynebu cyhuddiadau o lofruddio tair o ferched a cheisio llofruddio dau oedolyn yn Southport yng Nglannau Mersi.
Bu farw Bebe King (chwech oed), Elsie Dot Stancombe (saith oed), ac Alice Dasilva Aguiar (naw oed) ar ôl cael eu trywanu mewn dosbarth dawns.
Cafodd Leanne Lucas a John Hayes eu hanafu yn y digwyddiad.
Does dim modd enwi’r plant oedd wedi goroesi’r ymosodiad o ganlyniad i’w hoedran.
Ond mae modd enwi’r diffynnydd, sef Axel Muganwa Rudakubana, ar ôl i gyfyngiadau gael eu codi gan y barnwr.
Mae’r llanc 17 oed hefyd wedi’i gyhuddo o fod â chyllell yn ei feddiant.
Aeth gerbron llys ieuenctid fore heddiw (dydd Iau, Awst 1), gan orchuddio’i wyneb drwy gydol y gwrandawiad.
Mae’r achos wedi’i drosglwyddo i Lys y Goron Lerpwl, yn yr un adeilad.
Mae disgwyl gwrandawiad ple a pharatoi ar Hydref 25 yn Lerpwl.
Bryd hynny, fe allai gyflwyno ple i dri chyhuddiad o lofruddio, deg cyhuddiad o geisio llofruddio, a chyhuddiad arall o fod â chyllell yn ei feddiant.