Mae disgwyl i Lisa Nandy, Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, gynnal cyfarfod brys â Tim Davie, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, i drafod achos Huw Edwards, yn ôl adroddiadau.
Mae disgwyl i’r cyfarfod hwnnw ddigwydd heddiw (dydd Iau, Awst 1), ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod y Gorfforaeth yn gwybod fis Tachwedd y llynedd fod y darlledwr wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gael mynediad at ddelweddau anweddus o blant.
Ddoe (dydd Mercher, Awst 1) yn Llys Ynadon Westminster, plediodd y Cymro Cymraeg yn euog o dri chyhuddiad.
Ymddiswyddodd o’r BBC yn gynharach eleni, ac mae’r BBC bellach yn dweud y byddai wedi cael ei ddiswyddo pe bai e wedi pledio’n euog pan oedd yn dal yn gyflogedig.
Mae Lisa Nandy bellach yn awyddus i wybod beth yn union roedd y Gorfforaeth yn ei wybod am y sefyllfa, cyn iddi benderfynu ar y camau nesaf, ond mae ei hadran o’r farn fod cwestiynau difrifol i’w hateb.
Cefndir
Roedd Huw Edwards yn derbyn cyflog o hyd at £480,000 gan y BBC.
Ar ôl iddyn nhw gael gwybod ei fod e wedi cael ei arestio, fe wnaethon nhw barhau i’w dalu am bum mis.
Roedd e eisoes wedi cael codiad cyflog o £40,000 cyn iddo gael ei ddiarddel fis Gorffennaf y llynedd, yn dilyn honiadau ei fod e wedi talu person ifanc am ddelweddau o natur rywiol.
Mae staff y BBC yn galw am ymchwiliad i’w ymddygiad ac am iddo ad-dalu ei gyflog oedd yn golygu mai fe oedd y newyddiadurwr ar y cyflog uchaf yn y BBC.
Colli anrhydeddau
Yn sgil yr helynt, mae lle i gredu y gallai Huw Edwards golli nifer o anrhydeddau mae wedi’u derbyn dros y blynyddoedd.
Mae’n aelod o’r Orsedd, ac ar drothwy’r Eisteddfod ym Mhontypridd mae lle i gredu bod y sefydliad am gyfarfod i ystyried tynnu’r anrhydedd yn ôl.
Mae hefyd wedi’i colli’i rôl yn ddirprwy lywydd Ymddiriedolaeth Cenedlaethol yr Eglwysi, ac mae prifysgolion Bangor a Chaerdydd yn ystyried diddymu ei raddau er anrhydedd.
Mae’r Gymdeithas Ddysgedig hefyd yn ystyried dileu ei gymrodoriaeth.
Dydy’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd na Phrifysgol Abertawe ddim wedi gwneud sylw.
Dywed S4C nad ydyn nhw wedi ei gomisiynu i weithio iddyn nhw ers iddo adael y BBC.