Mae’r cyn-gyflwynydd newyddion Huw Edwards wedi pledio’n euog i dri chyhuddiad o greu delweddau anweddus o blant.
Cyfaddefodd i’r troseddau mewn gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Westminster yn Llundain heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 31).
Clywodd y llys fod Huw Edwards, wnaeth ymddiswyddo o’r BBC fis Ebrill, wedi derbyn 377 o luniau o natur rywiol, 41 ohonyn nhw’n ddelweddau anweddus o blant, gan ddyn arall ar WhatsApp.
Cafodd y cyn-gyflwynydd ei arestio fis Tachwedd y llynedd, a’i gyhuddo fis diwethaf.
Yn y llys, dywedwyd ei fod wedi bod yn rhan o sgwrs ar-lein gyda dyn arall ar Whatsapp rhwng Rhagfyr 2020 ac Awst 2021, ac mai’r dyn hwnnw oedd wedi anfon y lluniau.
Cafodd ei gyhuddo o fod â saith llun categori A, y math gwaethaf o ddelweddau anweddau, ar ffôn. Roedd ganddo 12 delwedd categori B a 22 o luniau categori C hefyd.
Dywed Heddlu Llundain fod y cyhuddiadau hyn yn fater ar wahân i honiadau eraill gafodd eu gwneud y llynedd, oedd yn dweud iddo dalu person ifanc am luniau anweddus.
Adeg ei ymddiswyddiad, doedd yr un darlledwr newyddion yn y BBC yn derbyn mwy o gyflog na’r Cymro Cymraeg, oedd yn ennill cyflog rhwng £475,000 a £479,999 ac roedd e’n drydydd ar restr holl staff y BBC.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar Fedi 16.