Mae cais y Ceidwadwyr Cymreig i drafod penderfyniad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gael gwared ar daliadau i helpu pensiynwyr â chostau ynni yn y Senedd wedi cael ei wrthod.
Bydd Senedd Cymru’n cael ei hadalw’n gynnar ddydd Mawrth nesaf (Awst 6) i enwebu Prif Weinidog newydd.
Roedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi gobeithio trafod penderfyniad Rachel Reeves, Canghellor y Deyrnas Unedig, i stopio Taliadau Tanwydd y Gaeaf i bensiynwyr.
Cyhoeddodd Rachel Reeves ddoe mai dim ond pensiynwyr ar fudd-daliadau fydd yn cael y taliad i’w helpu efo costau ynni.
Roedd taliadau gwerth rhwng £100 a £300 yn cael eu rhoi i ddeg miliwn o bensiynwyr yng Nghymru a Lloegr dan yr hen drefn.
Dywed Rachel Reeves fod y Llywodraeth Llafur wedi etifeddu gwerth tua £22bn o orwariant gan y Ceidwadwyr pan ddaethon nhw i rym ddechrau’r mis, ac mae hi wedi cael gwared ar sawl prosiect arall hefyd, gan gynnwys yr un i anfon rhai ceiswyr lloches i Rwanda.
‘Pa gefnogaeth?’
Roedd y Ceidwadwyr Cymreig wedi gofyn a fyddai Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru’n gwneud datganiad am effaith y penderfyniad, a nodi pa waith brys sy’n cael ei wneud i gefnogi pobol dros y gaeaf.
“Mae’r 360,000 o bensiynwyr Cymraeg fydd ddim yn derbyn Taliadau Tanwydd Gaeaf gan Lafur yn haeddu eglurhad a gweithredu gan Lywodraeth Llafur Cymru,” medd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd.
“Rhaid gofyn y cwestiwn, o ystyried gwrthwynebiad Llafur i roi’r budd-dal hwn i bob pensiynwr, ydyn nhw dal i gefnogi mesurau eraill, megis pasys bys am ddim?
“Byddai’n well gan y pensiynwyr Cymraeg sy’n cael eu heffeithio wybod pa gefnogaeth fyddan nhw’n ei dderbyn y gaeaf hwn nawr bod Llafur wedi gwadu Taliadau Tanwydd Gaeaf iddyn nhw, yn hytrach na gwylio Eluned Morgan yn cael ei henwebu yn unig.”
‘Effaith ar iechyd ac arian’
Mae Age Cymru wedi dweud eu bod nhw’n poeni am effaith y penderfyniad ar bobol hŷn hefyd.
“Rydyn ni’n gwybod bod miloedd o aelwydydd yng Nghymru’n methu â hawlio’r £200m y mae ganddyn nhw hawl iddo mewn Budd-daliadau Pensiwn, ac mae angen gwneud gymaint mwy i gefnogi pobol i gael mynediad at yr arian maen nhw’n gymwys iddo,” meddai’r Prif Weithredwr Victoria Lloyd.
“Mae rhannu Taliad Tanwydd Gaeaf yn unol â’r angen fel hyn yn golygu mai ychydig o amser sydd gan bensiynwyr i baratoi, ac mae’n benderfyniad all effeithio ar eu hiechyd yn ogystal â’u cyllidebau.
“Mae incwm addas yn sicrhau diogelwch ac urddas, ac yn helpu pobol i aros yn annibynnol ac actif.
“Mae cartref cynnes, bwyd da, moethau achlysurol a gallu mynd allan yn dda i iechyd a llesiant rhywun, ac yn helpu pobol hŷn i wneud y mwyaf o’u bywydau.”