Mae deiseb i drio atal Sefydliad y Glowyr y Coed Duon rhag cau wedi denu dros 1,000 o lofnodion mewn 24 awr, wrth i ymgyrchwyr alw am achub yr “ased pwysig”.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn bwriadu stopio rhoi cymorthdaliadau i’r lleoliad, ynghyd â phlasty Llancaiach Fawr ym mhentref Ffos y Gerddinen, erbyn diwedd mis Rhagfyr er mwyn arbed arian.
Ond mae cynghorwyr lleol ymysg y rhai sydd wedi arwain y galwadau i achub Sefydliad y Glowyr, gan ddweud wrth y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Lleol fod y Cyngor yn gwneud “toriadau yn y llefydd anghywir”.
Wedi’i adeiladu fel neuadd snwcer yn 1926, roedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio i gynnal popeth o ddawnsfeydd i grwpiau darllen i gyfarfodydd undebau’r glowyr tan i’r adeilad ddechrau dirywio yn y 1970au.
Bellach, mae’n cael ei ddefnyddio fel canolfan berfformio a theatr.
Mae Cyngor Caerffili wedi dweud bod angen iddyn nhw arbed tua £45m dros y ddwy flynedd nesaf, ac ar hyn o bryd maen nhw’n darparu cymhorthdal o £347,000 y flwyddyn i Sefydliad y Glowyr.
Maen nhw hefyd yn rhoi £485,000 y flwyddyn i Lancaiach Fawr.
‘Torcalonnus’
George Etheridge, dirprwy faer Cyngor Tref y Coed Duon, ddechreuodd y ddeiseb ar-lein gan ei fod yn poeni y byddai cau Sefydliad y Glowyr yn cael “effaith enfawr” ac y byddai’n “golled fawr i’r gymuned leol a’r dref”.
Bob blwyddyn, mae cyngherddau ysgolion, pantomeimau a phartïon Nadolig yn cael eu cynnal yno.
“Gallai effaith cau’r safle fod yn dorcalonnus i’r cymunedau lleol yn y Coed Duon a’r ardal,” medd George Etheridge.
Mae eraill sydd wedi llofnodi’r ddeiseb wedi galw’r safle yn “llinell cymorth i’r gymuned”, ac yn poeni y gallai “gael ei golli am genedlaethau”.
“Mae hwn yn adnodd gwych i bobol leol,” medd un arall.
“Rydyn ni eisiau iddo aros ar agor.”
Dywedodd eraill ei fod yn “cadw diwylliant yn y Cymoedd”, a bod Sefydliad y Glowyr yn “gwella ansawdd bywyd mewn ardal sy’n ddifreintiedig fel arall”.
‘Penderfyniadau anodd iawn’
Fe wnaeth Sean Morgan, arweinydd Cyngor Caerffili, gyhoeddi’r cynlluniau ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 30).
“Fedrwn ni ddim parhau i redeg gwasanaethau yn y ffordd rydyn ni wedi bod yn gwneud,” meddai.
“Rhaid i ni archwilio pob opsiwn ac ystyried ffyrdd o wneud pethau’n wahanol.
“Dw i eisiau bod yn onest gyda’r gymuned, oherwydd mae’n glir o raddfa’r arbedion fod rhaid i ni wneud rhai penderfyniadau anodd iawn dros y misoedd nesaf.”
Mae ymgynghoriad ar y mater yn cael ei gynnal tan Fedi 10, ac mae modd ymateb iddo ar-lein.