Bydd Ian ‘H’ Watkins o’r band Steps yn canu yn Gymraeg am y tro cyntaf ar raglen nesaf Canu Gyda Fy Arwr.

Mae H yn dychwelyd i Gwm Rhondda i ganu gydag un o’i ffans yn y rhaglen fydd ar S4C heno (nos Iau, Awst 1).

Mae H wedi bod yn dysgu Cymraeg gan fod ei blant yn mynychu ysgol Gymraeg, ond dyma’r tro cyntaf iddo ganu yn gyhoeddus yn Gymraeg, a hynny o flaen cynulleidfa leol yn Theatr y Parc a’r Dâr yn Nhreorci.

“Roedd hi’n emosiynol dros ben i fod yn ôl yma yn canu… roedd hi’n noson arbennig iawn,” meddai.

Ym mhob rhaglen o Canu Gyda Fy Arwr, mae ffan yn cael cyfle i ganu gyda’u harwyr.

Y tro hwn, tro Carys Howells, sy’n dod o Lanelli yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw ym Mhencader yn Sir Gaerfyrddin, oedd hi i gael canu gyda’i harwr.

Roedd hi a’i mam, fu farw ar ôl cael strôc yn 2019, wedi bod yn ffans o Steps ers eu dyddiau cynnar yn ôl yn 1997.

Y tro diwethaf iddyn nhw fynd i ddigwyddiad gyda’i gilydd oedd i weld Steps yn chwarae ym Mharc y Scarlets, Llanelli.

Dilyn ôl traed ei daid a dysgu’r iaith

Cyflwynodd H y noson i fam Carys Howells, a chanodd y ddau fersiwn gwbl newydd o’r emyn ‘Cwm Rhondda’ gyda’i gilydd.

“Mae’n arbennig iawn gan ei fod e’n un o hoff ganeuon fy nhad-cu, ac yn fwy arbennig i fi gan fy mod i’n ddysgwr, ac fe wnaeth fy nhad-cu ddysgu Cymraeg yn hwyrach yn ei fywyd, felly byddai e wedi bod mor falch – proud as punch,” meddai H.

Bronwen Lewis, H o Steps, Carys Howells a Rhys Meirion

Bronwen Lewis y gantores-gyfansoddwraig o Gastell-nedd, sydd yn cyflwyno Canu Gyda Fy Arwr, gan ddysgu rhywfaint o Gymraeg i H, ar y cyd â’r canwr opera Rhys Meirion.

Mae’r cyflwynwyr yn dilyn llwybr bywyd H ar hyd Cwm Rhondda i rai o lwyfannau mwyaf y byd, gan gwrdd â rhai o’r bobol sydd wedi dylanwadu arno fwyaf.

Mae’r rhain yn cynnwys ei fam, Gaynor Watkins, sydd yn athrawes dawnsio llinell.

“Ein hit cyntaf oedd ‘5, 6, 7, 8’. Roedd e i fod i wneud dawnsio llinell yn cŵl. Penderfynon ni beidio dilyn y cyfeiriad hynny – roedd mam yn gutted… mae hi’n ddawnswraig llinell frwdfrydig,” meddai H.

“Roedd hi mor falch, achos bydden i yn rhoi’r caneuon iddi hi cyn unrhyw un arall, a bydden i yn dangos y rwtîn dawns iddi. Yn arbennig i Mam.

“A byddai hi yn dysgu’r dosbarth, a byddai pawb yn ei wybod cyn iddo fe fod ar Top of the Pops.”