Daw’r cyn-Aelod Plaid Cymru o’r Senedd o Aberdâr yn wreiddiol, a chafodd ei magu ym Merthyr Tudful. Aeth hi i Ysgol Rhydfelen ym Mhontypridd cyn symud i Aberystwyth ar gyfer y brifysgol. Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn glanio yn y dref honno yr wythnos nesaf, fe fu golwg360 yn ei holi am ei phrofiadau yn y Cymoedd…


Mae Bethan Sayed, sydd bellach wedi gadael ei gwaith yn Aelod o’r Senedd, yn byw yng Nghaerdydd o hyd gan fod gwaith ei gŵr yno. Mae ganddyn nhw fab pedair oed, Idris.

“Dw i’n awyddus i’w ddysgu am fy nghefndir i o ran hanes y Cymoedd, yn ogystal â chefndir fy ngŵr sydd o India.”

Hanes a thirwedd y Cymoedd yw’r peth gorau am yr ardal, meddai.

“O wybod fy mod i’n dod o’r dref lle codwyd baner goch gyntaf sosialaeth, i ddysgu am hanes Dic Penderyn ac am y cyfansoddwr Joseph Parry, mae Merthyr mor bwysig i hanes Cymru.”

Pan oedd hi’n arfer byw yno, roedd y Cymoedd yn golygu llawer iddi.

“Dw i’n teimlo bod Ponty fel ail gartref, am i mi dreulio cymaint o amser yno fel arddegyn yn yr ysgol a gyda ffrindiau.

“Roeddem yn chwarae tenis ym Mharc Ynysangharad yn ystod gwyliau’r haf, yn cael nosweithiau yng Nghlwb y Bont a thafarn Angharad’s, sydd nawr wedi ei dymchwel, wrth gwrs!

“Yn sicr, roedd teimlad o berthyn, o fod yn rhan o grŵp arbennig o bobol.”

Ychwanega fod “emosiwn pur yn dod o gofio tyfu fyny yno, yn crwydro’r mynyddoedd ger fy nhŷ, yn creu dams, bwydo ceffylau gwyllt – y teimlad o fod yn rhydd sydd yn dod gydag ieuenctid hapus”.

Dywed taw’r lle gorau yn y Cymoedd yw Heolgerrig, ei phentref genedigol ger Merthyr, “reit ar ben y mynydd yn edrych i lawr ar y dref o bell, a Phen y Fan gerllaw”.

“Does dim golygfa well!”

Heolgerrig hefyd yw un o’r llefydd y byddai hi’n awgrymu i rywun sy’n teithio i’r Cymoedd ymweld â nhw.

Mae hi hefyd yn argymell “cerdded ar hyd y llynnoedd yn agos at Bontsticill, golygfeydd hen bontydd trenau stêm yng Nghefn Coed y Cymer.

Cymuned yn diflannu

Ers iddi symud allan o’r Cymoedd, mae Bethan Sayed yn teimlo bod y teimlad o berthyn i gymuned roedd hi’n gyfarwydd ag e yn diflannu’n araf.

“Mae fy rhieni dal yno ac yn cyfrannu i’r gymuned,” meddai.

“Doedd popeth ddim yn wych.

“Roedd fy mam wedi profi elfen o hiliaeth, gan ei bod yn dod o Ogledd Iwerddon.

“Dw i’n cofio, yn yr 1990au cynnar, i fenyw ddweud wrthi ar y stryd i ‘fynd adref i le ti’n dod o’. Dyna pam mae’n bwysig addysgu pobol a cheisio dod i derfyn â hiliaeth o unrhyw fath.”

Yn ogystal, mae hi’n credu bod angen gwella economi’r Cymoedd.

“Mae angen creu mwy o swyddi er mwyn caniatáu i bobol aros i weithio yno, ac i ddenu pobol newydd i fyw yno,” meddai.

Y Gymraeg

Ar hyd ei hoes, yn y Cymoedd a thu hwnt, fe fu’r Gymraeg yn bwysig i Bethan Sayed.

“Dw i wedi buddio o addysg Gymraeg yn y Cymoedd ac o wasanaethau Cymraeg Soar ym Merthyr, sydd wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd,” meddai.

“Byddai gweld mwy o ysgolion Cymraeg yn yr ardal eto fyth yn plesio.

“Roeddwn yn cystadlu yn yr eisteddfodau, yn mynd ar dripiau gyda thrigolion Merthyr i Nant Gwrtheyrn pan oeddwn i’n blentyn, ac yn cymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg gyda ffrindiau pan oedd gigs yr Urdd yn digwydd yng Nghlwb Rygbi Pontypridd.”

  • Yng Nghlwb Rygbi Pontypridd, ar Heol Sardis, fydd gigs Cymdeithas yr Iaith yn cael eu cynnal yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Caru’r Cymoedd: Rhuanedd Richards

Aneurin Davies

“Cymeriad pobol yr ardal yw’r peth pwysicaf – eu hiwmor, eu gonestrwydd, eu diffuantrwydd, a’u gofal o’i gilydd.”

Caru’r Cymoedd: Christine James

Aneurin Davies

Nesaf mewn cyfres sy’n edrych ar fenywod blaenllaw ym mro’r Eisteddfod mae Christine James, Cofiadur a chyn-Archdderwydd Cymru, sy’n siarad â golwg360

Caru’r Cymoedd: Helen Prosser

Aneurin Davies

Yn y darn cyntaf mewn cyfres sy’n edrych ar fenywod blaenllaw ym mro’r Eisteddfod, Helen Prosser, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, fu’n siarad â golwg360