Mae cerddoriaeth Recordiau Sain, label recordio annibynnol hyna’r wlad, yn digideiddio’u hôl-gatalog ac yn ailddychmygu eu stiwdios gwreiddiol yn Llandwrog yn sgil prosiect newydd.
Trwy’r prosiect, bydd modd cadw cerddoriaeth y label ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, gan danio oes newydd i gerddoriaeth Cymru.
Cafodd cwmni Recordiau Sain ei gyd-sefydlu gan Dafydd Iwan yn 1969, ac maen nhw wedi cael cyllid newydd i archifo casgliad o fwy na 2,000 o recordiau’n ddigidol.
Mae’r 140 sengl gyntaf, ochr yn ochr ag albymau ac EPs o gerddoriaeth brotest, pop, hip hop, clasurol a gwerin dros gyfnod o bum degawd, bellach ar gael i’w ffrydio neu eu lawrlwytho ar lwyfannau masnachol.
Cafodd llawer o’r gerddoriaeth ei recordio yng Nghanolfan Sain ger Caernarfon, ac mae gwaith yn mynd rhagddo i greu gofodau cydweithio a chymunedol ochr yn ochr â’r stiwdios recordio presennol erbyn dechrau 2025.
Arloesi
Mae’r cam yma gan Sain yn golygu y bydd gan artistiaid newydd fynediad at gatalog cerddoriaeth unigryw’r label yn ei gyfanrwydd ar ffurf ddigidol am y tro cyntaf erioed.
Mae hyn eisoes wedi ysbrydoli cyweithiau a recordiadau newydd, gan gynnwys golwg ddofn ar archif Sain ar yr albwm tâp-curiadau sydd i ddod gan Don Leisure, cynhyrchydd ac artist o Gaerdydd.
Mae Sain yn cydweithio â phobol greadigol a bandiau newydd eraill hefyd, gan ddefnyddio’r gofod a’r stiwdios yn Llandwrog i geisio ehangu cyfleoedd i artistiaid newydd a meithrin arloesedd a thwf yn y gymuned greadigol leol.
Bydd y Llyfrgell Genedlaethol yn darparu cyngor a chymorth arbenigol i Sain ar y broses archifo, i sicrhau bod yr archif gyfan yn cael ei chadw’n ddigidol yn y fformatau mwyaf hygyrch posib.
Fydd perchnogaeth a hawlfraint y recordiadau gwreiddiol ddim yn newid.
Mae’r ddwy ochr hefyd yn archwilio’r cyfle i ehangu’r prosiect yma yn archif gynhwysfawr i labeli cerddoriaeth Cymru, gan roi cyfle i gynulleidfaoedd ddarganfod cerddoriaeth newydd a hanesyddol.
Daeth cyllid ar gyfer y prosiect gan gronfa gymunedol Arfor, sef menter ar y cyd rhwng Cynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn, gafodd ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, sy’n ceisio defnyddio mentergarwch a datblygu economaidd i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a, thrwy hynny, cynnal yr iaith.
Archif Recordiau Sain
Mae archif y label Recordiau Sain yn cynnwys peth o’r gerddoriaeth Gymraeg bwysicaf gafodd ei recordio yn yr hanner can mlynedd diwethaf, ac mae cysylltiad annatod rhwng Sain a brwydrau gwleidyddol y cyfnod a’r diwylliant Cymraeg.
‘Dŵr’ gan Huw Jones oedd sengl gyntaf y label yn 1969, a honno’n gân brotest am foddi Cwm Tryweryn i ddarparu dŵr i ddinas Lerpwl.
Mae cerddoriaeth Dafydd Iwan wedi profi adfywiad diwylliannol yn y blynyddoedd diwethaf, gyda’i gân brotest ‘Yma o Hyd’ bellach yn anthem i gefnogwyr pêl-droed Cymru.
Yn y brifddinas y cafodd Sain ei sefydlu’n wreiddiol, a chafodd llawer o’u deunydd cynnar ei recordio yn Stiwdios Rockfield yn Sir Fynwy.
Ond symudodd y cwmni i ardal Caernarfon ac agor eu stiwdio recordio gyntaf ger Llandwrog yn 1974.
Ymhlith yr artistiaid sydd wedi recordio gyda’r label mae’r ffefrynnau indi Catatonia, y cerddor seic-gwerin Meic Stevens, y bardd a’r cerddor dylanwadol Geraint Jarman, y seren opera a chlasurol rhyngwladol Bryn Terfel, y gyn-delynores frenhinol a’r gyfansoddwraig Catrin Finch, a’r gantores flaenllaw Heather Jones.
I gyd-fynd â’r broses archifo digidol, mae cyfres o ailgyhoeddiadau ar feinyl wrthi’n cael eu paratoi, gydag albwm Heather Jones o 1974, Mae’r Olwyn yn Troi, ar gael i’w rhag-archebu.
“Os gwnaeth y 55 blwyddyn diwethaf ddysgu unrhywbeth i ni yn Sain, dysgu bod y byd cerdd a recordio yn newid a datblygu’n barhaus oedd hynny, a bod rhaid i bawb ohonom symud gyda’r amser neu gael ein gadael ar ôl,” meddai Dafydd Iwan.
“Mae’r deunydd crai yno bob amser, ac mae Cymru’n parhau yn fagwrfa ryfeddol i dalentau newydd a chreadigrwydd cyffrous.
“Bydd y prosiect arbennig yma, nid yn unig yn caniatáu inni adlewyrchu’r talent hwnnw heddiw, ond hefyd yn sicrhau bod holl gynnyrch cerddorol yr hanner canrif ddiwethaf ar gael yn hwylus i genedlaethau’r dyfodol.”
Galluogi cenhedlaeth newydd i fwynhau’r gerddoriaeth
“Mae Rhaglen ARFOR yn falch o gefnogi datblygiadau yn Canolfan Sain, Llandwrog,” meddai’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd.
“Mae’r bartneriaeth gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un gyffrous i alluogi cerddoriaeth hanesyddol i gael ei rhoi yn ddigidol a galluogi cenhedlaeth newydd i fwynhau’r gerddoriaeth.
“Mae creu’r gofod cydweithio am fod yn bositif i’r ardal i alluogi busnesau bach i gael gofod creadigol i’w hysbrydoli, ac annog creu busnesau newydd yn y sector creadigol.
“Mi fydd y datblygiad hwn yn help i’r economi wrth gadw busnesau yng Ngwynedd ac annog busnesau o du allan i Wynedd i fanteisio ar y cyfleusterau newydd, ac mi fydd yn hyrwyddo a datblygu’r Iaith o fewn y sector creadigol am flynyddoedd i ddod.”
‘Un o archifau cerddorol pwysicaf ein cenedl’
“Mae catalog Sain yn un o archifau cerddorol pwysicaf ein cenedl, gan groniclo mynegiant diwylliannol y Cymry dros hanner canrif a mwy,” meddai Rhodri Llwyd Morgan, Prif Weithredwr Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
“Mae’n fraint, felly, cael cydweithio gyda’r cwmni arloesol yma drwy roi cyngor gan ein staff arbenigol ar archifo a digido ac i fod yn rhan o ddatblygu’r prosiect.
“Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y berthynas hon fel bod pobol yn cael mynediad a defnydd o archifau fel hyn ledled Cymru.”