Emmy Stonelake sydd nesaf yn y gyfres sy’n rhoi’r Cymoedd dan y chwyddwydr. Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn glanio ym Mhontypridd yr wythnos nesaf, fe fu golwg360 yn holi Emmy, sydd wedi actio yn y cyfresi 35 Diwrnod ac Enid a Lucy, am y Cymoedd…
Daw Emmy Stonelake yn wreiddiol o Aberdâr. Yno bu’n byw tan yn 19 oed, cyn symud i Sidcup yn Llundain er mwyn hyfforddi fel actor a cherddor yn Ysgol Ddrama Rose Bruford.
Heddiw, mae Emmy yn byw yn Lerpwl ers dwy flynedd ac yn dweud bod y ddinas honno’n “wahanol iawn i Lundain ac i’r Cymoedd”.
“Mae’n dda cael persbectif gwahanol, dw i’n meddwl,” medd Emmy, sydd â “pherthynas gymhleth” â’r Cymoedd.
“Doeddwn i ddim yn teimlo fel rhan o’r gymuned mainstream roedd fy nheulu yn perthyn iddi, a dw i dal ddim heddiw.
“Mae’r gymuned dw i’n sôn amdani fan hyn yn un heterorywiol, batriarchaidd (yn bennaf), rugby-oriented, Saesneg ei hiaith, felly do’n ni byth rili yn match made in heaven!”
Ond mae Emmy yn dal i werthfawrogi’r teimlad o gymuned deuluol sydd i’w gael yn y Cymoedd.
“Mae fy nheulu i gyd yn byw o fewn ryw ugain stryd i’w gilydd, sy’n beth gwerthfawr iawn yn fy marn i.
“Mae’r Cymoedd yn rhan enfawr o bwy ydw i, a dw i’n falch iawn o hynna.”
Teimlo’n gartrefol
Wrth feddwl yn ôl am y Cymoedd, mae Emmy Stonelake yn awgrymu llefydd sy’n arwain at deimlad o fod yn gartrefol.
“Mae yna ddau le – Pant Farm, sef ardal uchaf Cwmbach. Dyma le treuliais i flynyddoedd gorau fy mhlentyndod yn chwarae lan a lawr y stryd gyda’r niferoedd o blant eraill oedd yn byw ochrau yna (yr actor James Ifan â’r cyfarwyddwr Alice Eklund, to name a few!).
“Ond hefyd y Colisewm yn Aberdâr lle, fel plentyn, ro’n i’n gwneud sioeau amatur hyd at bum gwaith y flwyddyn gyda’r cwmni Colstars.”
Ble ddylai ymwelwyr tro cyntaf â’r Cymoedd fynd i gael blas ar yr ardal, felly?
“Cerwch i dop mynydd Maerdy i gael hufen iâ ac i weld y golygfeydd, ac yna gyrrwch lawr i Stryd Fawr Treorci. Proper Cymoedd!”
Beth fyddai Emmy yn ei newid am y Cymoedd pe bai cyfle i wneud hynny?
“Sen i’n newid pa mor dlawd yn ddiwylliannol yw hi.
“Byddai hyn, gobeithio, yn codi ysbryd y bobol sy’n byw yno ac yn helpu’r ardal i fod yn fwy ymwybodol o’r amgylchedd, ac yn y blaen.”
Y Gymraeg
Mae’r Gymraeg wedi cael effaith fawr ar Emmy Stonelake erioed.
“Mae’r Gymraeg wedi rhoi cyfle i mi gysylltu gyda’m hunaniaeth a’m hynafiaid mewn ffordd does neb arall yn fy nheulu (heblaw am y rheiny sy’n iau na fi) wedi gallu’i wneud.
“Dwi’n falch iawn o fod yn ddwyieithog, ac yn browd hefyd o ddod o deulu di-Gymraeg.
“Mae’r ddau beth yn wir, a dw i’n teimlo’n ffodus iawn o gael y ddeuoliaeth yna ynof fi.
“Sen i ddim yn berson funny, siaradus, dosbarth gweithiol y Cymoedd heb y Saesneg sy’ wedi cael ei phasio lawr i mi, a ’sen i’n sicr ddim yn actor na’n gerddor heb ysgolion iaith Gymraeg.”
Wrth fyw yn y Cymoedd hefyd, roedd y Gymraeg yn bwysig i’w bywyd.
“O’r Cylch Meithrin hyd at arholiadau Lefel A, ro’n i’n siarad ac yn dysgu’r Gymraeg bob un dydd.
“Er do’n i ddim yn Gymraeg yn ddiwylliannol gartref, ro’n i’n cystadlu mewn Eisteddfodau, yn helpu ’mrawd trwy’i TGAU, ac yn fwy diweddar wedi bod yn sgwrsio a helpu Mam, sydd wedi mynd ati i ddysgu’r Gymraeg yn ei chanol oed.”