Gydag Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yn glanio ym Mhontypridd yr wythnos nesaf, mae golwg360 wedi penderfynu cynnal cyfres o sgyrsiau gyda menywod blaenllaw yn Rhondda Cynon Taf.

I ddechrau’r gyfres, dyma Helen Prosser o Donyrefail, sy’n gadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod ac yn Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol…


Daw Helen Prosser o Donyrefail yn Rhondda Cynon Taf, ac mae hi’n dal i fyw yn ei thref enedigol heddiw.

“Es i i’r brifysgol yn Aberystwyth a gweithio yn Abertawe am chwe blynedd, ond roeddwn yn awyddus i ddychwelyd i fy mro enedigol,” meddai.

“Mae fy nheulu a llawer o ffrindiau yma, a dw i wrth fy modd yn yr ardal.”

Golyga’r cymoedd gryn dipyn iddi, ac mae byw yn yr ardal yn gwneud iddi “deimlo’n gartrefol”.

“Dw i’n hoffi mynd i’r pentref a gallu cael sgwrs gyda phobol,” meddai.

“Hefyd, mae llefydd bendigedig gyda ni i fynd am dro – llawer o lwybrau y des i ar eu traws am y tro cyntaf yn ystod y cyfnodau clo.

“Mae teimlad braf, cartrefol yma.”

Un o’r llefydd sy’n gwneud iddi deimlo’n fwyaf cartrefol yw Parc Ynysangharad, lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

“Dyna le roeddwn i’n mynd amlaf am ddiwrnod ma’s yn blentyn, ac i Barti Ponty yn y parc yr es i â fy merch gyntaf pan oedd hi’n bythefnos oed.”

Ychwanega taw’r peth gorau am y cymoedd yw’r bobol.

“Mae pobol yn gyfeillgar ac yn driw iawn.”

Ble ddylai ymwelwyr â’r Eisteddfod fynd i gael blas ar y cymoedd, felly?

“Mae llefydd gwych i fynd am dro ym mhobman: Penpych yn y Rhondda, Llwybr Taf ger Pontypridd, y Parc Gwledig yn Aberdâr…

“Mae stryd fawr Treorci’n hyfryd, ac mae croeso Cymraeg yn yr Hen Lyfrgell yn y Porth ac yng Nghlwb y Bont ym Mhontypridd.

“Mae’n amhosib dewis un lle!”

Dywed fod ymdeimlad pendant o berthyn i gymuned yn y Cymoedd, ond nid un gymuned yn unig.

“Dw i’n teimlo’n rhan o nifer fawr o gymunedau – fy nghymuned yma yn Nhonyrefail, ond mae hefyd yn braf iawn, iawn cael bod yn aelod o’r gymuned Gymraeg; cymuned sydd wedi dod at ei gilydd i baratoi at y Steddfod i weithio’n galed a chael hwyl.”

Y Gymraeg

Beth mae’r Gymraeg yn ei olygu iddi, tybed, a hithau wedi’i magu ar aelwyd Saesneg?

“Mae’r Gymraeg yn gwbl ganolog i fy mywyd i,” meddai.

“Er i fi gael fy magu heb y Gymraeg, mae’r Gymraeg yn rhan bwysig iawn o fy mywyd.

“Mae fy nheulu’n siarad Cymraeg, a dw i wedi treulio llawr iawn o flynyddoedd yn dysgu’r Gymraeg i oedolion yn yr ardal.

“Dw i am weld y Gymraeg yn tyfu a mwy o bobol yn ei defnyddio.”

Beth, felly, yw ei hoff air Cymraeg?

“Mae’n newid bob dydd. Heddiw? Eisteddfod!”