Mae’r gantores Georgia Ruth wedi cyhoeddi ei bod hi’n tynnu’n ôl o’i holl gigs dros yr haf.

Daw hyn wedi i’w gŵr Iwan Huws, prif leisydd y band Cowbois Rhos Botwnnog, gael ei daro’n wael yn ystod eu set yn Sesiwn Fawr Dolgellau yn gynharach y mis hwn.

Roedd hi eisoes wedi cyhoeddi na fydd hi’n chwarae yng Ngŵyl Latitude, a’i bod hi wedi gohirio ei gig yn Llundain yr wythnos hon.

Daeth y cyhoeddiad fore heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 19) na fydd hi’n chwarae yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd, tafarn y Cŵps yn Aberystwyth, gŵyl Green Man na gŵyl Ara Deg ym Methesda.

Cafodd Iwan Huws ei gludo i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, ac mae bellach mewn cyflwr “sefydlog” ac yn “derbyn y gofal gorau posib”.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, ymddiheurodd Georgia Ruth am fethu â chwarae gan ddweud ei bod “gobeithio gallu dod nôl i chwarae nhw eto yn y dyfodol”.

“Mae Iws yn dod adre heddiw!” meddai ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Methu diolch ddigon i holl staff Bronglais am eu gofal a’u gwaith trylwyr dros y deg diwrnod dwetha.

“Diweddariad bach o ran gigs: fydda’i ddim yn chwarae Steddfod, Cŵps Aber, Green Man na Ara Deg – mor sori, ond gobeithio gallu dod nôl i chwarae nhw eto yn y dyfodol.”