Fe wnaeth oriau gwylio S4C ar-lein gynyddu bron i draean dros y flwyddyn ddiwethaf.
Yn ôl Adroddiad Blynyddol 2023-24, fe wnaeth oriau gwylio S4C Clic ac S4C ar iPlayer gynyddu 31% ers y flwyddyn flaenorol – y ffigwr gorau erioed.
Fe wnaeth cyrhaeddiad blynyddol S4C ar deledu llinol godi 5% i 1,713,000 o wylwyr.
Bu cynnydd o 9% yn nifer y Cymry Cymraeg sy’n gwylio o wythnos i wythnos yn 2023-24 hefyd, y ffigwr uchaf ers chwe blynedd.
Yn ôl y sianel, roedd cyfresi drama newydd gan gynnwys Anfamol, Bariau a Pren ar y Bryn a rhaglenni Cwpan Rygbi’r Byd ymysg y rhai mwyaf poblogaidd.
Cyfrannodd y cynnwys oedd yn gysylltiedig â Chwpan Rygbi’r Byd at sesiynau gwylio S4C Chwaraeon ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda 2.7m o sesiynau gwylio yn ystod mis Hydref – yn bennaf ar Instagram a TikTok – oedd yn gynnydd o 969% ers y flwyddyn flaenorol.
Fe wnaeth Eisteddfod yr Urdd yn Sir Gâr yn 2023 gyrraedd 254,000 o bobol yng Nghymru, sy’n gynnydd o 24% ers 2022.
Gwelodd S4C gynnydd o 61% yn oriau gwylio cynnwys yr Eisteddfod Genedlaethol o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, sy’n golygu mai yn yr wythnos honno yn 2023 y cafodd S4C y nifer uchaf o oriau gwylio ers 2012.
Mae’r gwasanaeth hefyd wedi nodi twf 53% yn nifer yr oriau gwylio ar YouTube dros y flwyddyn 2023-24.
‘Blwyddyn anodd dros ben’
Bu’r flwyddyn ddiwethaf yn un gythryblus i S4C, wedi i adroddiad damniol i arweinyddiaeth y sianel gael ei gyhoeddi.
Mae’r adroddiad yn cydnabod y Cynllun Gweithredu gafodd ei gyhoeddi ddechrau’r flwyddyn er mwyn adfer y sefyllfa.
“Mae’r ffigurau yma yn coroni blwyddyn o waith uchelgeisiol S4C i wella ein cyrhaeddiad digidol,” meddai Guto Bebb, cadeirydd Bwrdd Unedol Dros Dro S4C.
“Nid un sianel bellach yw S4C.
“Fel darlledwr, mae S4C nawr yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ar S4C Clic, BBC iPlayer, YouTube a’r holl lwyfannau cyfryngau cymdeithasol sy’n hynod o bwysig er mwyn sicrhau cynulleidfa’r dyfodol.”
Ychwanega Sioned Wiliam, sy’n Brif Weithredwr Dros Dro ar S4C, eu bod nhw’n gallu “edrych ymlaen yn hyderus i barhau i ddarparu’r cynnwys gorau” i’w holl gynulleidfaoedd.
“Gyda diolch mawr i’r staff a’n partneriaid yn y sector gynhyrchu rydyn ni’n arbennig o falch cyhoeddi yr holl lwyddiannau a welwch yn yr Adroddiad yma,” meddai.
“Does dim dwywaith y bu 2023-24 yn flwyddyn anodd dros ben i S4C ond mae gennym gynllun gweithredu beiddgar eisoes ar waith ac yn dwyn ffrwyth.
“Braf gweld bod y gwerthfawrogiad o’r sianel a’i chynnwys yn parhau’n gryf gyda’n gwylwyr.
“Mae’r farn gyffredinol am S4C wedi gwella eleni eto, am y drydedd flwyddyn yn olynol, ar draws siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd – gyda mwy nag erioed yn credu ein bod yn llwyddo i adlewyrchu Cymru gyfan, yn ei holl amrywiaeth.”