Mae disgwyl i Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf roi hwb o £16m i’r economi leol.

Ar ôl bron i dair blynedd o waith cynllunio, bydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd rhwng Awst 3-10.

Dywed Cyngor Rhondda Cynon Taf fod disgwyl 160,000 o ymwelwyr yn Rhondda Cynon Taf a Phontypridd yn ystod wythnos yr Eisteddfod, gan gefnogi busnesau lleol a rhoi hwb o £16m i’r economi leol yn ystod yr wythnos.

Am bob £1 fydd y Cyngor yn ei gwario, mae disgwyl i bron i £60 gael ei roi’n ôl i’r economi leol yn ystod wythnos yr Eisteddfod, ar ben y sylw ehangach fydd yn dod i’r fwrdeistref sirol o ganlyniad i gynnal digwyddiad diwylliannol mwyaf Ewrop, meddai’r Cyngor.

Er mwyn gallu cynnal yr Eisteddfod, meddai Cyngor Rhondda Cynon Taf, maen nhw wedi darparu cefnogaeth werth £275,000 sy’n cynnwys costau tocynnau ar gyfer cyn-filwyr, cyfleusterau parcio a theithio, rheoli trafnidiaeth, a staffio megis y tîm diogelwch cymunedol.

Ers nifer o flynyddoedd, fe fu’r Eisteddfod yn siarad â chymunedau ac ysgolion lleol yn Rhondda Cynon Taf, yn meithrin perthnasau â thrigolion, gan adrodd hanes yr Eisteddfod a thynnu sylw at y rhaglen amrywiol a chyffrous fydd yn rhedeg drwy gydol wythnos yr Eisteddfod.

Sefydliad elusennol yw’r Eisteddfod Genedlaethol, sy’n rhedeg Eisteddfod flynyddol ar gost o ryw £6.5m, sy’n cael ei gasglu drwy nawdd gorfforaethol, rhoddion, codi arian mewn cymunedau, grant gan Lywodraeth Cymru ac incwm gan fasnachwyr a gwerthiant tocynnau.

Cefnogi’r Eisteddfod

“Gyda’r economi leol yn disgwyl hwb o hyd at £16m, mae’n bwysig fod y Cyngor, ynghyd â’n partneriaid, wedi helpu i gynnal yr Eisteddfod o ran logisteg ac yn ariannol,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf.

“Mae’n gweithio allan, ar gyfer pob £1 sy’n cael ei gwario gan y Cyngor i gefnogi’r Eisteddfod, mae bron i £60 yn cael ei roi’n ôl i’r economi leol.

“Un o’n nodau fel Cyngor yw cefnogi’r economi leol a busnesau lleol, ac mae’r hyn rydym yn ei gael yn ôl drwy ein buddsoddiadau’n gwneud synnwyr.

“Bydd yr Eisteddfod yn darparu hwb enfawr i fusnesau lleol ac rydym yn gobeithio, unwaith mae ymwelwyr yn gweld yr hyn sydd gennym i’w gynnig yn Rhondda Cynon Taf, y byddan nhw’n parhau i ymweld yn y blynyddoedd i ddod.

“Mae’r Eisteddfod yn ddigwyddiad o bwys cenedlaethol, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at groesawu Cymru gyfan i Rondda Cynon Taf.

“Mae’r Eisteddfod i bawb.

“Mae’n ddigwyddiad cynnes a chroesawgar i’r teulu cyfan, ac yn hyrwyddo iaith a diwylliant Cymru drwy ystod eang o weithgareddau.

“Waeth beth yw eich gallu o ran yr iaith Gymraeg, mae rhywbeth i bawb, ac rydym yn gobeithio y bydd trigolion lleol yn manteisio ar Eisteddfod ar stepen eu drws.”

Caru’r Cymoedd: Helen Prosser

Aneurin Davies

Yn y darn cyntaf mewn cyfres sy’n edrych ar fenywod blaenllaw ym mro’r Eisteddfod, Helen Prosser, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, fu’n siarad â golwg360