Mae Pwyllgor Diwylliant y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu cyfleoedd newydd i bobol ifanc ym maes cerdd a drama.
Daw’r alwad wedi i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru benderfynu cau eu rhaglenni cerdd a drama ar y penwythnos ar gyfer pobol ifanc.
Mae’r ddarpariaeth yn dod i ben yn sgil yr “heriau ariannol sylweddol” sy’n wynebu’r coleg, medden nhw.
Fe fu proses ymgynghori â staff ar y gweill yn y Coleg, ac fe ddaeth i ben fis Mehefin.
Ni chafodd ateb ariannol ymarferol ei gynnig, ac ar ôl asesu mae’r Coleg Brenhinol wedi penderfynu bod cynnig darpariaeth ar y penwythnos i gerddorion ac actorion yn anghynaladwy’n ariannol, ac felly fe fydd yn dod i ben fis Medi.
‘Lleihau costau’
Roedd y ddarpariaeth ar y penwythnos yn rhan o weithgarwch Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) Ifanc, ac mae’r Coleg yn dweud nad yw’r penderfyniad yn golygu bod CBCDC Ifanc yn cau’n llwyr nac yn tynnu’n ôl o’u gwaith gyda phobol dan 18 oed.
“Tair blynedd o chwyddiant uchel, ffioedd myfyrwyr gradd wedi’u capio ar £9,000 ers bron i 10 mlynedd ac, yng Nghymru, bydd Addysg Uwch yn gweld gostyngiad gan 6% yn y flwyddyn academaidd nesaf,” medd y Coleg mewn datganiad.
“Yn ehangach, mae’r sector Addysg Uwch yn y Deyrnas Unedig yn mynd i’r afael â heriau tebyg ac mae mwy na 50 o brifysgolion eisoes wedi cyhoeddi diswyddiadau, gyda dros 50% yn rhagweld diffyg yn eu cyllidebau eleni.
“Yn amlwg, nid yw Conservatoires ac Ysgolion Drama, sydd hefyd yn gweithredu yng nghyd-destun pwysau ariannol ychwanegol ar y diwydiannau celfyddydau perfformio, wedi’u heithrio rhag yr heriau hyn.
“Mae CBCDC eisoes wedi datblygu cynigion manwl sy’n ceisio lleihau ei gostau o flwyddyn academaidd 2024/25.”
‘Siom fawr’
Dywed Delyth Jewell, cadeirydd Pwyllgor Diwylliant y Senedd, fod y pwyllgor wedi’u “siomi’n fawr” gan y penderfyniad.
“Mae’r cyrsiau hyn wedi bod yn gonglfaen i addysg gelfyddydol, gan chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu ein talent ifanc,” meddai.
“Mae cau’r ddau gwrs yn golled enfawr i fyfyrwyr ac i’n tirwedd ddiwylliannol.
“Rydym yn ddiolchgar iawn i’r nifer fawr o fyfyrwyr a rannodd eu straeon pwerus â’r Pwyllgor. Mae’n amlwg y bydd cau’r cyrsiau hyn yn cael effaith ddofn ar eu bywydau.
“Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn wynebu heriau ariannol difrifol ac mae cynnal cynlluniau fel hyn yn hynod anodd. Fodd bynnag, rydym yn bryderus ynghylch pa mor sydyn y cafodd y penderfyniad i gau’r cyrsiau ei wneud.”
Ychwanega fod y penderfyniad yn “gadael bwlch sylweddol” mewn addysg cerdd a drama, ac yn creu ansicrwydd i staff, myfyrwyr a theuluoedd.
“Rhaid i’n pobol ifanc beidio â bod o dan anfantais o gymharu â’u cyfoedion mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig a thu hwnt,” meddai wedyn.
“Heddiw, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud popeth o fewn ei gallu i greu cyfleoedd amgen ym maes cerdd a drama, ac i sicrhau llwybrau cynaliadwy i mewn i hyfforddiant proffesiynol yng Nghymru.”
Ar hyn o bryd, mae’r rhaglenni penwythnos yn derbyn cymhorthdal gan y Coleg, ond dydyn nhw ddim yn derbyn arian uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru na Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
“Bydd y penderfyniad i roi terfyn ar y gweithgareddau wythnosol hyn yn golygu y bydd y cymhorthdal hwn yn dod i ben o 2024/25 ac mae’r arbediad o ganlyniad yn gwneud cyfraniad sylweddol at y lleihad cyffredinol mewn costau y mae’n rhaid i’r Coleg eu gwneud y flwyddyn nesaf,” meddai’r datganiad.
‘Rhan annatod o’n cymdeithas’
Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod sefydliadau diwylliant, celf a chwaraeon Cymru yn “rhan annatod o’n cymdeithas a’n lles, gan gyfoethogi ein cymunedau ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol”.
“Rydym wedi gweithredu i liniaru pwysau llawn y gyllideb ar y sectorau hyn, fodd bynnag, rydym wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn i ganolbwyntio cyllid ar wasanaethau cyhoeddus craidd, gan gynnwys y Gwasanaeth Iechyd,” meddai.
“Gyda buddsoddiad o £13 miliwn rhwng 2022 a 2025, mae ein Gwasanaeth Cerdd Cenedlaethol yn sicrhau bod pob person ifanc 3-16 oed yn gallu cael mynediad at weithgareddau cerddoriaeth, gan gynnwys hyfforddiant offerynnau a llais.”