Mae Cadeirlan Deiniol Sant ym Mangor wedi derbyn hwb ariannol o £29,500 i gefnogi rhaglen gerddoriaeth yno.

Daw’r arian gan Raglen Gymorth Cerddoriaeth y Gadeirlan yn sgil cynnydd yn oriau gwaith y clercod lleyg, sef cantorion proffesiynol sy’n canu yng nghôr y Gadeirlan.

Bydd y cyllid gaiff ei roi i’r Eglwys yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo rhagoriaeth mewn cerddoriaeth gorawl ac organ, ac yn darparu cyfleoedd i bobol o bob cefndir ffynnu a datblygu.

Cerddoriaeth y Gadeirlan

Ers penodi Joe Cooper yn Gyfarwyddwr Cerdd yn 2021, mae’r bywyd cerddorol y Gadeirlan wedi cael adfywiad sylweddol.

Mae wedi mynd ati i recriwtio Ysgolorion Corawl a choryddion sydd wedi darparu bywyd newydd i weinidogaeth gorawl yr Eglwys.

Mae’r côr yn enwog am ei gerddoriaeth gorawl ogoneddus.

Yng Ngwasanaeth Cysegru Esgob Tyddewi yn 2024, fe wnaethon nhw berfformio gosodiad gwreiddiol o destunau’r Cymun gan Joe Cooper, oedd yn seiliedig ar donau emynau adnabyddus Cymru.

Dywed Joe Cooper y bydd “y gefnogaeth gan Cathedral Music Trust yn ein helpu i barhau i godi safon cerddoriaeth ym Mangor – yn y  Gymraeg ac yn Saesneg”.

“Mae ein Côr yn cynnwys llawer o gerddorion ar ddechrau eu gyrfa, a bydd y wobr hon yn ein helpu i roi profiadau iddyn nhw fel y gallant hwythau ddod yn arweinwyr côrau’r dyfodol.”