Daw’r Athro Emerita Christine James, Cofiadur a chyn-Archdderwydd Cymru, o Gwm Rhondda yn wreiddiol. Hi oedd y ferch gyntaf i ddod yn Archdderwydd. Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn glanio ym Mhontypridd yr wythnos nesaf, fe fu golwg360 yn ei holi am ei phrofiadau yn y Cymoedd…


Cafodd Christine James ei magu yn y Cymoedd, ond symudodd hi yn 1972 er mwyn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Teithiai hi yn ôl i Gwm Rhondda ar gyfer gwyliau’r Coleg ac i ymweld â’i theulu.

Wedi iddi orffen yn y brifysgol, symudodd hi a’i gŵr i Ben-y-bont ar Ogwr am waith, cyn symud i Eglwys Newydd yng Nghaerdydd yn 1987, lle mae hi dal yn byw heddiw.

“Arferwn ymweld ag aelodau’r teulu yn y Cwm yn gyson ar hyd y blynyddoedd, ond ers i fy mam farw yn 2020, mae’r ymweliadau hynny wedi dod i ben i bob pwrpas.

“Does gen i ddim teulu ar ôl yn y Cwm erbyn hyn.”

Er nad yw hi wedi byw yn y Cymoedd ers 50 mlynedd, mae ganddi atgofion cynnes o’r ardal o hyd. Ond ym mle mae hi’n fwyaf cartrefol yn y Cymoedd, tybed?

“Y stryd lle cefais fy ngeni yn Nhonypandy, er bod cartref fy rhieni wedi ei hen werthu erbyn hyn,” meddai.

“Rwyf hefyd yn hoff iawn o’r olygfa i lawr dros y cwm o safle Ffynnon Fair ar ochr Cwm Rhondda Fawr o Fynydd Pen-rhys.”

Perthynas “gymhleth ac aml-haenog”

Yn ôl Christine James, mae’r emosiynau mae hi’n eu cysylltu â Chwm Rhondda yn “gymhleth ac aml-haenog, rhwng y profiad o gael fy magu yno, o ymwneud â theulu a chyfeillion a chymdogion, ac yn y blaen”.

“Er nad wyf wedi byw yn y Cymoedd ers dros 50 mlynedd bellach, rwy’n dal i feddwl amdanaf fy hunan fel un o Gwm Rhondda,” meddai.

“Dyna le mae fy ngwreiddiau.”

Beth sydd mor arbennig am y Cymoedd, a pha le fyddai hi’n annog rhywun i fynd er mwyn deall y lle’n well, felly?

“Mae’n anodd deall y Cymoedd heb ddeall rhywbeth am y diwydiant glo oedd yn sail i’r twf aruthrol yn eu poblogaeth yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a’r dirywiad economaidd mawr wedyn yn sgil cau’r pyllau glo.

“Felly, byddwn yn anfon rhywun ar ‘Daith yr Aur Du’ ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda, ar safle hen lofa Lewis Merthyr yn Nhrehafod, gan sicrhau eu bod yn gorffen yng Nghaffe Bracchi ar yr un safle.”

Y Gymraeg

Dysgodd Christine James y Gymraeg fel ail iaith yn Rhondda County School for Girls yn y Porth.

Ond doedd hi ddim yn gallu siarad Cymraeg yn rhugl tan iddi symud i Brifysgol Aberystwyth.

Erbyn hyn, Cymraeg yw iaith y teulu.

“Er nad y Gymraeg yw fy mamiaith, hi bellach yw iaith fy nghalon,” meddai.

“Dyma gyfrwng fy mherthynas â’m gŵr, mae’n iaith gyntaf fy mhlant a’m hwyrion.

“Dyna oedd iaith fy ngyrfa gyfan yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Abertawe.

“Dyma iaith fy mherthynas â’m cyfeillion agosaf, a chyfrwng fy marddoni.

“Ac yn Gymraeg rwy’n addoli.

“Ond dan ddylanwad fy athrawes Gymraeg yn y Porth, gosodwyd y sylfeini ar gyfer gweddill fy mywyd…”

Caru’r Cymoedd: Helen Prosser

Aneurin Davies

Yn y darn cyntaf mewn cyfres sy’n edrych ar fenywod blaenllaw ym mro’r Eisteddfod, Helen Prosser, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, fu’n siarad â golwg360