Bydd Theatr y Palas yn Abertawe, oedd yn wynebu cael ei dymchwel, yn ailagor ym mis Medi.
Bydd yr adeilad rhestredig Gradd II yn ailagor fel caffi, swyddfeydd a gofod ar gyfer digwyddiadau, a daw hyn yn sgil prosiect gwerth £10m.
Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewrop, Llywodraeth Cymru a Chyngor Abertawe.
Agorodd y theatr ei drysau am y tro cyntaf yn 1888, ac ers hynny mae wedi rhoi llwyfan i berfformwyr fyd-enwog gan gynnwys Charlie Chaplin ac Anthony Hopkins, Morecambe a Wise, a Laurel a Hardy.
Er ei fod wedi bod ar gau am dros bymtheg mlynedd, mae’r adeilad dros y degawdau wedi cael ei ddefnyddio fel neuadd gerddoriaeth, neuadd bingo ac yn fwy diweddar fel clwb nos.
Y theatr hon oedd y lleoliad cyntaf yng Nghymru i ddangos ffilmiau mud.
Fe brynodd Cyngor Abertawe’r adeilad yn 2020, a hynny ddyddiau’n unig ar ôl achos honedig o losgi bwriadol.
Wrth siarad â’r BBC, dywedodd Rob Stewart, arweinydd y Cyngor, fod yr adeilad yn “bwysig ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol a hanes Abertawe”.
“Mae gan yr adeilad lot fawr o hanes ac mae’r gwaith yn rhan o adfywiad ehangach o ganol dinas Abertawe,” meddai.
Mae llawer o nodweddion gwreiddiol y theatr wedi’u hadfer, gan gynnwys y bwa o amgylch y llwyfan a’r brics coch gwreiddiol y tu allan.