Mae sioe gerdd ddiweddaraf Seiriol Davies yn taflu goleuni ar enillydd dadleuol y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Pont-y-pŵl yn 1924.
Mae Corn Gwlad, sydd wedi’i chyd-gynhyrchu gyda’r Fran Wen a’r Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yn ail-fyw seremoni coroni’r bardd Prosser Rhys.
Caiff y cymeriad ei wawdio gan Archdderwydd yr Orsedd am sôn yn ei bryddest fuddugol ‘Atgof’ am ei berthynas â dyn, gan ladd ar ei ffordd o fyw.
Mae’n bryddest anghyffredin o ran ffurf a chynnwys, ac mae’n creu tipyn o gynnwrf am ei bod yn trafod rhyw, gan gynnwys rhyw hoyw mewn dull plaenach nag y mae rhai yn barod i’w dderbyn.
Ni chaiff y bryddest ei hailargraffu fyth.
‘Awran wyllt’
Mae’r sioe yn procio’r cwestiwn annatod ynghylch pwy ydyn ni.
Dywed Seiriol Davies, awdur a chyfansoddwr y sioe, y “gall cynulleidfaoedd ddisgwyl awran wyllt llawn jôcs, gwisgoedd glam a bangars gan rai o artistiaid gorau Cymru (a fi!).
“Dim amharch i’r bwtîs bach gwyn ar draws aelodau’r Orsedd, ond dw i’n ddigon hyderus i ddweud… na fydd yr Orsedd byth yn edrych mor wych!”
Mae cymeriadau’r sioe yn cynnwys yr Archdderwydd (Lisa Angharad), sy’n brwydro i ddelio â’r bygythiad i draddodiad gan Prosser Rhys (Meilir Rhys Williams).
Bydd Carys Eleri, ynghyd â Nia Gandhi, yn chwarae rhan yr Orsedd, a Seiriol Davies yn chwarae rhan Iolo Morganwg, sylfaenydd yr Orsedd.
Bydd y sioe yn cael ei chynnal yn y Babell Lên am 7:30 bob dydd rhwng Awst 6-9 yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.