Daw Cyfarwyddwr BBC Cymru o Gwmaman yng Nghwm Cynon yn wreiddiol. Bellach, mae hi’n byw ym Mhontypridd. Gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn glanio yn y dref honno yr wythnos nesaf, fe fu golwg360 yn ei holi am ei phrofiadau yn y Cymoedd…


Dywed Rhuanedd Richards ei bod hi’n “mwynhau bod yn rhan o’r gymuned arbennig” yn y Cymoedd, “a byw yng nghanol pobol sydd mor ddidwyll, mor gynnes a charedig”.

Ychwanega mai’r ardal hon sydd wedi siapio’i gwerthoedd a’i phersonoliaeth, a’i bod hi “wedi elwa cymaint o’r addysg, o’r fagwraeth ac o’r diwylliant” ym mro ei mebyd.

“Rwy’n falch iawn bod fy mhlant wedi cael yr un profiad wrth fwynhau eu plentyndod yn Rhondda Cynon Taf,” meddai.

Mae’r teimlad o fod yn rhan o gymuned yn y Cymoedd yn “gryfach nac erioed” wedi iddi fagu ei phlant yno, a’r rheiny wedi ymroi i’r gymuned hefyd.

“Rydw i wedi mwynhau bod yn llywodraethwraig ysgol yma, yn ogystal â fy rôl wrth gefnogi gwaith Clwb y Bont,” meddai.

“Mae gen i nifer o ffrindiau sy’n byw’n lleol ac mae aelodau fy nheulu’n byw yma.

“Rwy’n mwynhau fy mywyd cymdeithasol yma, ac rwy’n ddiolchgar iawn i fy ngŵr, sy’n wreiddiol o gyrion Llundain, am fod mor barod i wneud Pontypridd yn gartref i ni fel teulu.”

‘Dihangfa o brysurdeb gwaith a’r ddinas’

Dywed fod ardal y Cymoedd yn “golygu popeth” iddi, a bod harddwch yr ardal yn rhan o’r hyn mae hi’n ei garu fwyaf yno.

“Mae’n ardal hardd iawn,” meddai.

“Mi wnaeth y mynyddoedd, yr afonydd, y coed, y llynnoedd a’r bywyd gwyllt roi’r maes chwarae gorau i fy mhlentyndod yn Aberpennar a Chwmaman.

“Bellach, maen nhw’n ddihangfa o brysurdeb gwaith a’r ddinas.”

Byddai hi’n hoffi gweld prydferthwch naturiol yr ardal yn cael ei hyrwyddo’n well, meddai, “er mwyn denu mwy o bobol ifanc i ymgartrefu yn y fro”.

“Edymygedd a pharch” at bobol y Cymoedd

Nid harddwch yr ardal yw’r unig beth mae Rhuanedd Richards yn ei garu am y Cymoedd chwaith.

“Cymeriad pobol yr ardal yw’r peth pwysicaf – eu hiwmor, eu gonestrwydd, eu diffuantrwydd, a’u gofal o’i gilydd.

“Mae’r ardal hefyd yn un mor Gymreig – yn ei holl agweddau ac yn ei golwg ar y byd – a’i phobol yn dueddol o fod yn falch iawn o’r Gymraeg hefyd, p’un a ydyn nhw yn siarad yr iaith ai peidio.”

Mae ganddi barch enfawr tuag at y bobol a’u dycnwch, meddai.

“Mae’r ardal wedi bod trwy gymaint o newid, a nifer o’r trigolion wedi wynebu caledi mawr ar hyd y blynyddoedd, yn enwedig ar ôl i’r diwydiannau trwm ddirwyn i ben.

“Rwy’n edmygu cymeriad y bobol a’u dycnwch wrth geisio gwneud eu gorau dros eu teuluoedd a’u cymunedau, a hynny fel arfer mewn ffordd gwbl ddiffwdan gyda gwên ar eu hwynebau.”

Cwmaman

Dywed Rhuanedd Richards mai’r lle sy’n gwneud iddi deimlo’n fwyaf cartrefol yw ei milltir sgwâr yng Nghwmaman.

“Mi ges i’r fagwraeth orau yno,” meddai.

“Mi oedd yn bentref bach gyda chymuned agos, ac roedd criw eithaf sylweddol ohonom yn blant yn ddisgyblion yn Ysgol Rhydfelen.

“Roedden ni’n dal y bws ysgol gyda’n gilydd, ac yn teithio awr o siwrne bob bore i gael addysg Gymraeg, ac awr yn ôl gyda’r hwyr.

“Roeddem ni’n mynd i’r Ysgol Sul gyda’n gilydd, dan arweiniad yr hyfryd Betsi Davies.

“Yn y gaeafau oer, mi fysen ni’n mynd ar ein slediau i ben y mynyddoedd ac yn rasio’n wyllt i’r gwaelod.

“Yn yr hafau poeth, roedd pwll padlo awyr agored cymunedol gennym yng Nglynhafod, a byddai unrhyw un yn taeru ein bod yn St. Tropez wrth i ni dorheulo ar ein tywelion!”

Mae hi’n cysylltu nifer fawr o emosiynau â’r Cymoedd, ac yn “rhamantu gormod am y lle mae’n siŵr!”

“Mae cenedlaethau o fy nheulu wedi cael eu magu yn y Cymoedd, ac mae’n anodd peidio â theimlo hiraeth wrth gofio am y rhai sydd bellach wedi ein gadael.

“Wrth droedio strydoedd rhai o’r pentrefi oedd yn rhan mor bwysig o fy mhlentyndod, a gweld capeli wedi cau, hen ysgolion a gweithfeydd wedi’u dymchwel, a nifer o gartrefi gwag, mae rhywun yn teimlo hiraeth weithiau am y dyddiau a fu.

“Ond yr hyn sy’n trechu’r hiraeth bob tro yw gweld sut mae natur wedi gorchfygu, ac wedi adfer yr hen dir diwydiannol yn yr ardal, gan adnewyddu’r Cymoedd gyda mantell o wyrddni naturiol.”

Y Gymraeg yn y Cymoedd

Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o fywyd Rhuanedd Richards yn y Cymoedd, meddai.

“Mae’n rhan gwbl greiddiol o fy hunaniaeth ac o’r hyn sy’n fy niffinio, ac mae hi wedi rhoi cymaint o gyfleoedd i mi ar hyd y blynyddoedd.

“Mae’r ffaith bod fy rhieni, a fy ngŵr, wedi mynd ati i ddysgu’r Gymraeg yn ail iaith yn destun balchder i mi, ac mae magu fy mhlant drwy’r Gymraeg yn y Cymoedd wedi bod yn brofiad mor gadarnhaol.

“Y rhodd bwysicaf ges i erioed gan fy rhieni oedd addysg Gymraeg a’r cyfle i siarad Cymraeg, er nad oedden nhw eu hunain wedi cael yr un cyfle.

“Mi oedd yn bwysig ofnadwy – o’r gymuned a’r capel, i’r gigs yng Nghlwb y Bont ac i’r holl gyfleoedd anhygoel gafodd eu cynnig i ni drwy’r Gymraeg gan Ysgol Gymraeg Aberdâr ac Ysgol Rhydfelen.

“Does gen i ddim amheuaeth – mi wnaeth addysg Gymraeg agor drysau i mi.

“Ac yn bwysicach, mi roddodd gyfle i mi berthyn i ddiwylliant unigryw.”

Caru’r Cymoedd: Christine James

Aneurin Davies

Nesaf mewn cyfres sy’n edrych ar fenywod blaenllaw ym mro’r Eisteddfod mae Christine James, Cofiadur a chyn-Archdderwydd Cymru, sy’n siarad â golwg360

Caru’r Cymoedd: Helen Prosser

Aneurin Davies

Yn y darn cyntaf mewn cyfres sy’n edrych ar fenywod blaenllaw ym mro’r Eisteddfod, Helen Prosser, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, fu’n siarad â golwg360