Mae Maes B a Radio Cymru wedi cyhoeddi’r artistiaid sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau eleni.

Seren, Ifan Rhys, Dim Gwastraff a Tesni Hughes yw’r pedwar sydd wedi cyrraedd y brig yn y gystadleuaeth.

Bydd yr holl artistiaid yn cystadlu ar Lwyfan y Maes Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ddydd Mercher, Awst 7.

Mae rhai o gyn-enillwyr Brwydr y Bandiau yn cynnwys Alffa, Chroma, Trwbz, Y Ffug, Sŵnami a Kizzy Crawford.

Seren

Bydd y band, ddaeth at ei gilydd wrth astudio yn y brifysgol yn Lerpwl, yn perfformio am y tro cyntaf yn yr Eisteddfod.

Daw Elan Fflur Hughes, y prif leisydd, o Landrillo ac mae hi’n mwynhau rhannu ei hamser rhwng y gogledd a Lerpwl. Dyma’r tro cyntaf i sawl un o’r aelodau ymweld â’r Eisteddfod, ac mae hi’n edrych ymlaen at weld sut y bydd “hogia’r Wirral” yn ymateb.

Mae Seren newydd ryddhau eu sengl gyntaf, ‘Ffydd’, ac mae Fleetwood Mac, Yws Gwynedd a Bwncath ymysg eu dylanwadau cerddorol.

Elan sy’n ysgrifennu’r caneuon adre, a straeon personol yw’r ysbrydoliaeth yn aml, cyn eu cyflwyno i weddill y band – Ben (gitâr), Joe (gitâr), Tobin (dryms) ac Euan (bas).

Ifan Rhys 

Mae Ifan Rhys yn hen law ar chwarae ar lwyfan, fel chwaraewr bas i fand Elis Derby ac fel rhan o’r band Orinj cyn hynny, ond am y tro cyntaf, mae’r cerddor o Fynydd Llandegai yng Ngwynedd yn mentro dan ei enw ei hun.

Yn gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Salford, mae dylanwad cerddoriaeth wedi bod arno erioed gan fod aelodau o’r teulu’n rhan o fandiau fel Y Niwl a Topper.

Dylanwadau eraill arno yw’r Super Furry Animals a Big Leaves, a rhyddhaodd ei sengl gyntaf, ‘Hadau’, ar label INOIS ym mis Gorffennaf.

Bydd Osian Evans ac Osian Land yn ymuno efo Ifan ar Lwyfan y Maes i gystadlu.

Dim Gwastraff

Er mai dim ond ym mis Ionawr y daeth Liv Williams (llais), Toby King (gitâr), Sam Veale (bas) ac Evan Davies (dryms) ynghyd yng Ngholeg y Cymoedd, maen nhw eisoes wedi perfformio mewn llond llaw o gigs lleol.

Mae’r criw yn disgrifio’u steil fel pop pync, ac yn ffans mawr o gerddoriaeth gynnar y band Paramore.

Teimla Liv fod yna ddiffyg aelodau benywaidd yn sîn y cymoedd, ac mae ei pherthynas â’i chynefin yn ddylanwad mawr ar y caneuon.

Tesni Hughes

Cystadlodd Tesni Hughes ym Mrwydr y Bandiau 2021 fel artist unigol, ond eleni bydd hi’n ôl gyda band llawn.

Teimla ei bod hithau a’i cherddoriaeth wedi aeddfedu ers iddi gystadlu’r tro diwethaf yn 16 oed, gyda’r band newydd yn cynnwys aelodau o fandiau megis Maes Parcio.

Daw hi o Ynys Môn, ac mae sîn a cherddorion yr ynys wedi dylanwadu ar ei cherddoriaeth indi-pop-roc, meddai.

Mae hi hefyd yn rhan o deulu INOIS, y label cerddoriaeth annibynnol o Ddyffryn Nantlle, a rhyddhaodd ei sengl newydd sbon, ‘Trefn’, ddiwedd Gorffennaf.