Mae cystadleuaeth gyfansoddi Cân i Gymru 2025 wedi agor i geisiadau.

Eleni, am y tro cyntaf erioed, caiff y sioe fyw ei chynnal yn stiwdios ffilm Dragon Studios ym Mhen-y-bont ar Ogwr, nos Wener, Chwefror 28.

‘Ti’ gan Sara Davies o Landysul ddaeth i’r brig yn Arena Abertawe eleni.

Y cerddor Osian Huw Williams, prif leisydd y band Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr, fydd yn cadeirio’r rheithgor ac yn cyflwyno tlws Cân i Gymru i’r enillydd.

Bydd gwobr o £5,000 i gyfansoddwr y gân fuddugol, gydag enillydd yr ail wobr yn ennill £3,000 ac enillydd y drydedd wobr yn hawlio £2,000.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Ionawr 5.

Bydd cyfle i wylio’r noson fawr yn fyw ar S4C, gyda Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur yn dychwelyd i gyflwyno’r noson.

Bydd tocynnau ar gael i’w harchebu’n fuan.

‘Cystadleuaeth hollol unigryw’

“Dw i’n hynod gyffrous o fod ’nôl yn cadeirio rheithgor beirniadu ‘Cân i Gymru’ eleni – roedd llynedd yn flwyddyn arbennig a’r safon yn uchel, felly fydd hi’n ddifyr iawn gweld beth ddaw y tro hwn!” meddai Osian Huw Williams.

“Mae Cân i Gymru yn gystadleuaeth hollol unigryw ac yn medru lansio cerddorion o’r ystafell fyw yn syth i’r llwyfan mawr.

“Mae’n ffordd wych o gael dy enw di allan yno, yn enwedig i bobol ifanc sy’n dechrau eu gyrfa.

“Felly, os oes gan rywun alaw sydd yn styc yn eu pen, riff sydd ar flaen eu bysedd, neu eiriau sydd yn drwm yn eu calonnau – dyma’r cyfle.

“Cerwch amdani – does yna ddim byd yn eich stopio chi!”

Er mwyn cystadlu, ewch draw i wefan S4C am ragor o wybodaeth, telerau ac amodau a ffurflen ymgeisio.