Mae prosiect sy’n rhan o waddol yr Eisteddfod Genedlaethol yn ardal Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi eu rhestr fer o fusnesau’r fro allai ennill anrhydedd arbennig am eu cyfraniadau at yr ŵyl.
Dyma’r tro cyntaf i Wobrau Busnes Ardal yr Eisteddfod gael eu cynnig.
Cafodd y prosiect ei drefnu ar y cyd gan yr Eisteddfod a Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, a’i lansio fel rhan o weithgareddau Diwrnod Shw’mae Su’mae ym mis Hydref.
Fe dderbyniodd y trefnwyr 35 o geisiadau gan fusnesau’r dalgylch, a thros gan niwrnod ers yr Eisteddfod ym Mhontypridd, mae’r rhestr fer bellach wedi’i chyhoeddi.
Cydnabod y defnydd o’r Gymraeg
Pum categori sydd i gyd, a dau ohonyn nhw’n cydnabod y defnydd o’r Gymraeg gan fusnesau.
Bydd Gwobr Defnydd o’r Gymraeg yn cael ei rhoi i fusnes neu gwmni sydd wedi datblygu eu defnydd o’r Gymraeg ac wedi creu cyfleoedd i staff a chwsmeriaid ddefnyddio’r iaith.
Y busnesau sydd ar restr fer y wobr hon ydy:
- Yr Hen Lyfrgell yn y Porth
- Rustico ym Mhontypridd
- Cangen Cymdeithas Adeiladu Principality ym Mhontypridd.
Bydd Gwobr Defnydd gweladwy o’r Gymraeg yn cael ei chyflwyno i fusnes neu gwmni wnaeth ddefnydd creadigol o’r Gymraeg yn y cyfnod hyd at, yn ystod ac yn dilyn yr Eisteddfod, a’r rhai sydd ar y rhestr fer honno yw:
- Yr Hen Lyfrgell yn y Porth
- Clwb y Bont ym Mhontypridd
- Pete’s Shop ym Mhontypridd
- Bizzie Lizzie’s Baby Shop ym Mhontypridd
Mae Osian Rowlands, Prif Weithredwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, wedi diolch i’r busnesau i gyd am hybu Cymreictod yr ardal.
“Mae’r gwobrau’n gyfle gwych i ddathlu cyfraniad rhai o’n busnesau lleol i’n hiaith dros y misoedd diwethaf, ac mae wedi bod yn fraint darllen yr enwebiadau rydyn ni wedi’u derbyn ar gyfer y gwobrau.”
Cyfraniadau at yr Eisteddfod
Mae dau gategori arall yn cydnabod cyfraniadau busnesau lleol at gynnal yr Eisteddfod yn llwyddiannus.
Mae’r Wobr diolch lleol yn wobr arbennig sydd wedi’i chyflwyno gan wirfoddolwyr lleol i ddiolch i fusnes neu gwmni fu’n gefnogol o’r gwaith trefnu a chodi arian yn ystod y cyfnod hyd at yr Eisteddfod.
Bydd yr enillydd yn cael ei ddethol o blith:
- Tafarn y Lion, Treorci
- Clwb Rygbi Aberdâr
- Clwb y Bont, Pontypridd.
Mae Gwobr Croeso i’r ŵyl yn gyfle i’r rheiny sy’n byw tu allan i ddalgylch yr Eisteddfod enwebu busnes neu gwmni ddangosodd groeso arbennig i Eisteddfodwyr yn ystod wythnos yr ŵyl.
Zucco a Chlwb y Bont ym Mhontypridd ydy’r ddau fusnes ddaeth i’r brig yn y categori hwnnw.
Bydd un Wobr Arbennig yn gyfle i wobrwyo clwstwr o fusnesau sy’n cydweithio neu sydd ar un safle ddangosodd gefnogaeth i’r Eisteddfod a’r Gymraeg.
Naill ai busnesau Stryd y Felin ym Mhontypridd neu Glwstwr Penderyn Cynon fydd yn derbyn y wobr honno.
‘Llwyddiant ysgubol’
Mae Helen Prosser, cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Rhondda Cynon Taf, yn pwysleisio gymaint roedd yr Eisteddfod wedi gwerthfarogi cefnogaeth yr holl fusnesau ddaeth i’r brig.
“Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn y gwobrau arbennig yma,” meddai.
Ychwanega’r Cynghorydd Rhys Lewis, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Addysg, Cynhwysiant a’r Gymraeg ar Gyngor Rhondda Cynon Taf fod yr Eisteddfod yn “llwyddiant ysgubol” i’r sir.
“Roedd busnesau lleol yn rhan enfawr o wneud y profiad yn arbennig iawn i ymwelwyr ac i drigolion,” meddai.
“Fe wnaeth busnesau ledled Rhondda Cynon Taf bob ymdrech i groesawu ymwelwyr o bob rhan o Gymru a thu hwnt, gan roi croeso cynnes enwog y Cymoedd iddyn nhw.
“Roedden nhw wedi gweithio’n galed i addurno eu busnesau, llunio bwydlenni arbennig, a manteisio i’r eithaf ar y cannoedd o filoedd o bobol oedd yn mwynhau’r dathliadau drwy gydol yr wythnos.”
Bydd y gwobrau terfynol yn cael eu cyflwyno mewn digwyddiad arbennig yn y Lido ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd, sef safle Maes y Brifwyl eleni, ar Ragfyr 5.