I ddathlu Gorymdaith Llusernau Enfawr Aberteifi ym mis Rhagfyr, bydd cyfle yfory (dydd Sul, 24 Tachwedd) i gymryd rhan mewn gweithdy i wneud llusern ar gyfer y parêd.

Dechreuodd y traddodiad o gynnal yr orymdaith yn 2016, a bydd Theatr Byd Bach yn creu parêd llusernau enfawr arall yn y dref nos Wener, 6 Rhagfyr.

Bydd y parêd yn cychwyn am 7pm o Bendre i Gei’r Tywysog Siarl gan orffen ar Lan y Cei gydag arddangosfa tân gwyllt ac arddangosfa jyglo tân.

Os ydach chi eisiau gwneud llusern a bod yn rhan o’r orymdaith bydd gweithdy ar y thema Afon Teifi yn cael ei gynnal yfory yn Heol Bath-House yn Aberteifi rhwng 10yb a 3yp. Mae angen archebu lle yn y gweithdy ac mae’n addas ar gyfer plant 8+ oed. Rhaid i bob plentyn fod yng nghwmni oedolyn ac mae teuluoedd gyda phlant iau (6-7 oed) yn cael eu hannog i gydweithio. Bydd angen dod â ffedog a phecyn bwyd.

Bydd fframwaith y llusern yn cael ei greu gyda helyg a bydd cyfle i ychwanegu glud a phapur sidan i’r ffrâm wedyn. Bydd pob llusern yn cael ei storio yn Theatr Byd Bach tan y parêd.

Mae rhagor o wybodaeth yma.