Mae’r actorion John Ogwen a Maureen Rhys wedi troi’n 80 oed eleni, ac wedi bod yn edrych yn ôl dros eu gyrfaoedd.
Fis Medi, byddan nhw’n ymuno â’r cyflwynydd radio Ffion Dafis yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru i edrych yn ôl ar eu harchif ac adrodd eu straeon.
Mae’r ddau, wnaeth gyfarfod tra’n fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, wedi bod yn actio ar deledu a llwyfan ers tua 60 mlynedd, a nhw fydd gwesteion nesaf cyfres “Archif Ddarlledu Cymru’n cyflwyno…”.
Tua phum wythnos sydd rhwng pen-blwyddi’r ddau, fu’n dathlu yng Nghaerdydd gyda’r teulu yn gynharach eleni.
Ar flwyddyn pen-blwydd reit fawr, golwg360 fu’n holi ychydig ar y ddau am uchafbwyntiau eu gyrfa ers canol y 1960au.
Gan ystyried eich gyrfa hir, pa ddarnau o waith ydych chi’n arbennig o falch ohonyn nhw?
Maureen Rhys: Does gen i ddim gymaint o bulk â John, ond dw i wedi bod yn andros o lwcus fy mod i wedi cael gwneud dramâu unigol hefyd. Mae John wedi gwneud lot fawr o gyfresi.
Mae hi’n anodd, mae gen i dipyn i ddweud am Lleifior achos bod y cysylltiadau’n mynd yn ôl i pan oedd teledu’n ddu a gwyn, i’r 60au, ac wedyn actio rhan Marged unwaith a Greta wedyn, a chael geiriau andros o garedig gan Islwyn Ffowc Ellis wedyn. Mi’r oedd hynny’n golygu gymaint achos chafodd yr ail Leifior ddim y derbyniad mwyaf gwresog gan y wasg, ond mi oedd hi’n cael mwy o glod gan bobol yn gyffredinol, ac mi ddaeth y llythyr ffantastig yma gan Islwyn Ffowc Ellis. Mae hwnna’n sefyll allan oherwydd bod y llythyr yna hefyd.
Mae John a fi wedi gwneud gymaint o nosweithiau dros y blynyddoedd efo Merched y Wawr, WI, cymdeithasau ac mae’n debyg mai be mae pobol yn ddweud fwyaf ydy Y Tŵr. Dyna gyfuniad yn fan yna o deledu a llwyfan yn dod at ei gilydd. I mi, y cynhyrchiad llwyfan sy’n sefyll allan. Rydyn ni wedi’i gwneud hi ddwywaith. Mewn print, mae Gwenlyn [Parry] wedi dweud ei bod y ddrama wedi’i sgrifennu i ni’n bersonol, ac mae hynny’n cyfrif lot.
Un arall ydy’r addasiad teledu o Tywyll Heno. Mae yna gymaint o lythyrau’n llofft ar ôl Tywyll Heno, roedd yna bethau dwys yn dod ar ei ôl o.
John Ogwen: Mae’n siŵr bod Maureen wedi dweud yr un peth, ond yr addasiad a’r ffilm wnaethpwyd o Tywyll Heno, Kate Roberts. Ddaeth bob dim at ei gilydd efo hwnnw, hap a damwain oedd ei wneud o. Roedden ni fod i wneud rhywbeth arall gan ddramodydd arbennig o dda, Ewart Alexander, ond doedd S4C ddim yn rhy hapus efo’r pwnc. Wedyn ar frys gwyllt dyma feddwl am rywbeth arall, a Kate Roberts. Ac mi drodd allan yn arbennig, mi wnaethon ni ei saethu fo i gyd mewn deg diwrnod. Dw i’n ofnadwy o falch o hwnnw, yn fwy na dim byd. A gaethon ni ymateb arbennig.
Ar gyfer y sgwrs â Ffion Dafis, fydd yn cael ei darlledu ar Radio Cymru’n nes at y Nadolig, mae John Ogwen a Maureen Rhys wedi dewis pedwar darn o waith yr un i’w trafod. Maen nhw hefyd wedi bod yn pori drwy hen luniau ar gyfer y digwyddiad.
Maureen Rhys: Rydyn ni wedi dewis pethau, ond dydyn ni ddim wedi gweld dim byd eto. Dw i ddim yn meddwl y gwnawn ni eu gweld nhw tan y noson. Dw i ychydig bach yn nerfus am y peth, i fod yn onest.
Roedd hel lluniau’n rhyfedd, ac yn meddwl: ‘Ai fi ydy honna?!’ Chwerw felys ydy o, fel bob dim atgofus.
John Ogwen: Fydd o’n rhywbeth i roi ar gof a chadw i’n teulu ni mewn gwirionedd, yn ogystal â phobol eraill, os bydd yna rywun yn gwneud gwaith ymchwil neu beth bynnag. Ond yn arbennig i’r teulu, mae gennym ni wyres fach bedair oed ac mae yna chwaer fach iddi ar y ffordd hefyd.
Roedd hi’n job dewis, achos roedd yna rywbeth bach i ddweud am lot o bethau. Dim ond gobeithio bod y rhannau’n wahanol. Roedd yna restr o ryw ddeg i fi, a gorfod dewis pedwar. Dw i’n cofio gwneud cyfres o wyth o ddramâu i HTV o bawb, flynyddoedd maith yn ôl. Aethon nhw ddim ymlaen i wneud mwy o gyfresi wedyn – dim ond un neu ddwy o ddramâu sengl. Dw i’n cofio gwneud ryw thriller efo Dewi Pws o bawb!
Dros y blynyddoedd, mae’r ddau wedi gweithio ar nifer o gynyrchiadau efo’i gilydd, nifer ar y llwyfan ac rhai i deledu. Sut beth, felly, oedd cydweithio dros y blynyddoedd?
Maureen Rhys: Does yna ddim eiddigedd o gwbl wedi bod, achos wnes i erioed feddwl am fy hun yn gwneud yr un bulk o waith â John.
Dydyn ni erioed wedi ymarfer adre. Unwaith rydych chi’n mynd i sefyllfa o’r cartref, mae rhywbeth yn digwydd ac rydych chi’n medru peidio bod yn chi’ch hun. Rydych chi’n smalio bod yn rhywun arall, ac rydych chi mewn sefyllfa hollol wahanol. Mae gennych chi rywun yna yn eich tywys chi drwy’r peth.
Do, rydyn ni wedi cyd-dynnu ac rydyn ni wedi ffraeo lawer gwaith yn yr ystafell ymarfer, ond fyswn i byth, byth, byth yn licio mynd dros linellau adre. Unwaith rydych chi’n dechrau hynna, fysa fo’n gybolfa. Roeddwn i eisiau toriad pendant rhwng bywyd smal a bywyd go iawn achos dw i’n meddwl bod o’n hynod, hynod beryglus os ydych chi’n mynd i fyw’r bywyd smal.
Pe bai’n rhaid i chi grynhoi’ch gyrfa, sut fyddech chi’n gwneud hynny?
Maureen Rhys: Cwestiwn da, ond dw i ddim yn gwybod os roi ateb da! Am fod y ddau ohonom ni yn yr un proffesiwn, dw i erioed wedi meddwl amdana fi’n hun a John yr un fath. Roedd John yn ofnadwy o focused, a fuodd yna gyfnod pan wnes i stopio a meddwl ydw i’n mynd ymlaen efo hyn. Ond eto, ryw alwad ffôn ddigwyddodd, ac mi es i ymlaen a mwynhau’n ofnadwy ar ôl dechrau.
Dw i wedi gwneud mwy o lwyfan na theledu ac, i fi, oherwydd bod yna bobol byw o flaen chi [roedd o’n rhywbeth roeddwn i’n fwynhau]. Wedi dweud hynny, dw i wedi synnu fy hun y cyfleoedd dw i wedi’u cael ar deledu.
Mae yna un stori sy’n cyfuno’r ddau. Roeddwn i’n gwneud Becket, a dyna chi anrhydedd hefyd, ar y llwyfan yn gwneud Dyddiau Difyr, ac roeddwn i newydd bortreadu Annwyl Kate, Annwyl Saunders yn gwneud Kate Roberts ar y teledu. Roeddwn i mewn gwisg nofio [yn y ddrama], ac yn yr egwyl roeddwn i’n mynd ar y llwyfan â’m mhen i lawr, a dwy ddynes yn pasio reit o flaen y llwyfan a dweud: ‘Meddwl bod Maureen Rhys yn hanner noeth ar y llwyfan heno, ac fel Kate Roberts ar y teledu noson o’r blaen’. Ac fe wnes i feddwl: ‘Ew, diolch am yr amrywiaeth’.
Dyna fyswn i’n ddweud am fy ngyrfa, dw i wedi bod yn lwcus eithriadol o feddwl nad ydw i wedi gwneud bulk mawr. Maen nhw wedi bod yn amrywiol iawn, ac roeddwn i eisiau gwthio’r ffiniau i wneud pethau’n wahanol – gaethon ni bedwar comisiwn i wneud pedair drama reit ar ddechrau S4C oedd yn amrywiol. Dw i’n hynod, hynod ddiolchgar.
John Ogwen: Dw i wedi mwynhau fy ngwaith, drwodd a thro. Ar y funud yma, dw i’n lleisio’r Dylluan Flin yng nghyfres Guto Gwningen i blant bach, a dw i’n mwynhau.
Dw i wedi cael cyfle i wneud lot o bethau gwahanol, dramâu difrifol, Noson Lawen, Straeon Harri Parri, cyflwyno sawl rhaglen ddogfen. Mewn gwirionedd, drwodd a thro, mewn 60 mlynedd mae o’n dipyn o lobsgows!