Mae S4C wedi dechrau ar y broses o recriwtio Prif Weithredwr nesaf y sianel.

Er mwyn gwneud hynny, mae Bwrdd Unedol y sianel wedi penodi’r penhelwyr (headhunters) Odgers Berndtson i’w cynorthwyo.

Ar hyn o bryd, maen nhw wrthi’n creu proses recriwtio addas a thrylwyr, gyda’r bwriad o hysbysebu’r rôl fis Medi.

Ers mis Chwefror, mae Sioned William wedi bod yn Brif Weithredwr dros dro.

Cafodd ei rhagflaenydd, Siân Doyle, ei diswyddo o’r rôl ym mis Tachwedd y llynedd yn sgil honiadau o fwlio.

Ynghyd â hynny, mae’r sianel yn chwilio am gyfarwyddwr i ofalu am staff a chreu “awyrgylch gwaith cadarnhaol, cefnogol a chynhwysol”.

Daw hyn ar ôl ymchwiliad i honiadau o fwlio ganfod “diwylliant o ofn” o fewn y sianel y llynedd,.

Bydd cyflog o hyd at £90,000 i’r Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant.

‘Llawer o waith o’n blaenau’

Yn ôl Guto Bebb, Cadeirydd dros dro S4C, mae “llwyddiannau cynnwys a chyrhaeddiad S4C dros y flwyddyn ddiwethaf yn dangos ein bod ni ar y trywydd iawn”.

“Ond mae llawer o waith o’n blaenau, yn cynnwys yr heriau digidol sy’n wynebu’r sector i gyd,” meddai.

“Dyma felly gyfle gwych i ni recriwtio rhywun uchelgeisiol i arwain S4C i’n pennod nesaf; rhywun sy’n rhannu ein gweledigaeth, ein gwerthoedd ac sy’n barod i weithio gyda’r Bwrdd, staff S4C a’r sector i ddod â’r weledigaeth yna’n fyw.

“Yn y cyfamser, estynnwn ddiolch mawr i Sioned Wiliam am ei gwaith fel Prif Weithredwr dros dro dros y misoedd diwethaf, ac yn enwedig am arwain y gwaith o gyflawni’r Cynllun Gweithredu gyhoeddwyd ym mis Chwefror.

“Mi fydd Sioned yn parhau yn ei swydd tan i’r Prif Weithredwr newydd ddechrau.”