Dyma eitem lle mae siaradwyr newydd yn cael cyfle i adolygu eu hoff raglenni ar S4C gan ddweud beth sydd wedi helpu nhw ar eu taith i ddysgu Cymraeg. Y tro yma, Pawlie Bryant sydd wedi ysgrifennu adolygiad o’r rhaglen Cynefin ar S4C.

Mae Pawlie yn byw yn Santa Barbara, Califfornia, ac wedi bod yn dysgu Cymraeg drwy Brifysgol Caerdydd ers 2022. Mae Pawlie yn beiriannydd, colofnydd Lingo360, a chanwr-gyfansoddwr. Roedd wedi rhyddhau ei sengl Gymraeg gyntaf, Americanwr Balch, yn gynharach eleni. Mae e’n ymweld â Chymru am fis bob blwyddyn, er mwyn darganfod mwy am Gymru wrth iddo drochi ei hun yn yr iaith a’r diwylliant.


Pawlie, beth ydy dy hoff raglen ar S4C a pam wyt ti’n ei hoffi?

Fy hoff raglen Gymraeg yw Cynefin.

Mae Cynefin yn gyfres ddifyr a diddorol sy’n canolbwyntio ar un dref neu ardal o Gymru ym mhob pennod. Mae’r cyflwynwyr yn teithio i le arbennig ym mhob pennod i ddysgu mwy am yr ardal a chyfarfod â phobl leol. Maen nhw’n dysgu am hanes, diwylliant, diwydiant, traddodiadau, a daearyddiaeth yr ardal. Mae’r lleoliadau’n hardd, y bobl leol yn ddiddorol a chyfeillgar, hanes yr ardaloedd yn llawn straeon, a’r sinematograffeg yn syfrdanol.

Beth wyt ti’n feddwl o’r cyflwynwyr?

Mae’r cyflwynwyr yn rhagorol, gyda chydbwysedd perffaith rhwng bod yn ddifrifol ac yn ddoniol. Ers dechrau’r gyfres yn 2020 mae’r tîm wedi cynnwys Heledd Cynwal, Iestyn Jones, a Siôn Tomos Owen. Ymunodd Ffion Dafis â’r criw’r llynedd, a Llinos Owen ym mis Mai eleni. Ar ddechrau pob pennod, mae Heledd yn rhoi rhagymadrodd sy’n gorffen: “…dyma ein cynefin.” Bob tro, mae hyn yn ffordd ysbrydoledig i osod y llwyfan i’r awr i ddod – i baratoi i ddysgu a chwerthin – a dw i erioed wedi cael fy siomi eto!

Ydyn nhw’n siarad iaith y de neu’r gogledd?

Mae’n gymysgedd o acenion a thafodieithoedd o bob rhan o Gymru. Er fy mod yn cymryd dosbarthiadau yn y de, hoffwn i allu deall yn hawdd pobl o bob rhan o Gymru. Felly mae mynd yn ôl ac ymlaen mewn un rhaglen yn berffaith i mi.

Beth wyt ti ddim yn hoffi am y rhaglen?

Dim byd – mae’r rhaglen yn anhygoel! Ond rhaid i fi ddweud… basai’n wych gallu ffrydio’r holl benodau blaenorol ar S4C Clic, yn lle dim ond llond llaw o’r penodau diweddaraf.

Pam mae’r rhaglen yn dda i bobl sy’n dysgu Cymraeg?

Fel siaradwr newydd, dw i’n ceisio dod o hyd i raglenni lle dw i’n gallu deall y cyflwynwyr yn ddigon da (heb is-deitlau), ond sy’n dal i fy herio i wella fy sgiliau gwrando. Er fy mod yn penderfynu troi’r is-deitlau Cymraeg ymlaen weithiau, dw i’n gallu deall y cyflwynwyr o leia 75% o’r amser gan eu bod yn siarad yn glir a ddim yn rhy gyflym – fel arfer!

Mae’r criw wedi teithio i lawer iawn o drefi ac ardaloedd arbennig o amgylch Cymru dros y blynyddoedd diwethaf. Fel rhywun sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg am lai na dwy flynedd ac sy’n treulio mis yn teithio o gwmpas Cymru bob blwyddyn, mae Cynefin yn darparu adloniant yn ogystal ag addysg i mi – heb sôn am syniadau ar gyfer lleoedd i ymweld yn ystod fy “Anturiaethau Cymreig Gwallgof” yn y dyfodol!

Faset ti’n awgrymu i bobl eraill wylio’r rhaglen?

Baswn, yn bendant. Mae’r rhaglen wedi ymweld â lleoedd fel Blaenau Ffestiniog, Ynys Cybi, Dyffryn Banw, Y Bala, Dyffryn Clwyd, Ynys Enlli, Wrecsam, Bro Ddyfi, Llanrwst, Caerfyrddin, Dolgellau, Tyddewi, Bangor, Portmeirion, Aberystwyth, Dyffryn Nantlle, Biwmaris, Llangollen, Nefyn, Beddelgert, Dyffryn Aeron, Port Talbot, Nant Conwy, Llanberis, a dwsinau o lefydd eraill. Hyd yn oed Lerpwl: “Prifddinas gogledd Cymru” i rai!

Mae ‘na gymaint i ddysgu am Gymru, ac mae Cynefin yn ddifyr iawn!

Beth sy ddim i’w hoffi?


Dych chi eisiau ysgrifennu adolygiad o’ch hoff raglen ar S4C? Anfonwch ebost at bethanlloyd@golwg.cymru