Ar bwys y maes pebyll, mae yna babell sy’n eitha’ mawr ac sy’n wag – heblaw am sinc mewn un gornel (lle i olchi llestri, mae’n debyg).

Ond os oeddech chi’n cerdded heibio heddiw, fysech chi wedi clywed cerddoriaeth consertina.

Wrth wthio trwy’r gap yn y gorchudd plastig, mi fyddech chi wedi gweld taw tarddiad y gerddoriaeth oedd… consertina yn cael ei chwarae gan Bryn Davies, a hynny er mwyn i’w ferch, Cadi Glwys, gael ymarfer ei dawns at gystadleuaeth.

Rhedwraig yn Nhŷ Gwerin

Mi wnaeth Cadi gyrraedd dydd Iau, gan ei bod hi yn gweithio trwy’r wythnos fel rhedwraig yn Nhŷ Gwerin, sydd yn golygu “gwneud te a choffis i lot o bobol”, meddai.

“Llynedd mi wnes i’r un swydd ac mi wnes i tê i Dafydd Iwan!”

Ond mae Cadi yn enw cyfarwydd i ddarllenwyr golwg360 fel un o sêr Eisteddfod yr Urdd.

Creu dawns newydd

Roedd Cadi wrthi’n paratoi dawns at y gystadleuaeth Dawns Werin Unigol, fydd hi’n ei pherfformio ddydd Sadwrn ola’r Eisteddfod.

Mi fydd y ddau yn creu’r ddawns o alawon a stepiau traddodiadol mae’r ddau ohonyn nhw’n eu gwybod, ac mi fydd Cadi yn gwisgo dillad traddodiadol – “i gyd o fewn y cyfyngiadau a osodwyd,” meddai Bryn.