Athrawes Gymraeg yn Ysgol Llanhari yw Catrin Rowlands. Mae hi’n dod o Dal-y-bont yng Ngheredigion, ond bellach yn byw yn Abertawe. Bydd ei chreadigrwydd a’i hymroddiad i waith pwyllgorau lleol yr Eisteddfod i’w gweld yn glir ar y Maes ym Mhontypridd eleni. Mae hi wedi cynnwys ei disgyblion yn y paratoadau ar hyd y daith, gan sicrhau eu bod yn rhan o’r gwaith cynllunio ar gyfer y Gadair, gyda’i hawydd i ddod â’r Gymraeg yn fyw i bobol ifanc yn glir i bawb.
Mae hi hefyd yn weithgar yn ei chynefin fel aelod o Dŷ Tawe, canolfan Gymraeg dinas Abertawe, ac mae hi wedi bod yn cynnig gwersi Cymraeg yn wirfoddol i ddosbarthiadau o oedolion yn eu cymuned yn Nhreforys.
Bydd ei chyfraniad i’r bywyd Cymraeg yn cael ei gydnabod yr wythnos hon, wrth i’r Orsedd ei hanrhydeddu â’r wisg werdd.
Mae Catrin Rowlands wedi bod yn cydweithio â disgyblion Ysgol Llanhari wrth iddyn nhw baratoi at yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd yr wythnos hon.
Roedd gan y disgyblion ddealltwriaeth o’r paratoadau eisoes, meddai, wedi iddyn nhw gymryd rhan yn y paratoadau at Eisteddfod yr Urdd ym Mhencoed yn 2017, gan fod yr ysgol wedi noddi’r Gadair bryd hynny.
Fe wnaethon nhw godi arian ar gyfer elusennau hefyd, meddai.
“Cymerodd y plant ran mewn tair taith gerdded o Drethomas i lawr i bentref Llanhari, gan gysylltu ein disgyblion gyda disgyblion ysgolion eraill a rhannu hanes a chwedlau’r ardaloedd ar yr un pryd,” meddai wrth golwg360.
Beth oedd ei hoff ran o’r paratoadau yn yr ysgol, felly?
“Yn sicr, esboniad a dadorchuddiad Cadair yr Eisteddfod o fewn gwasanaeth Blwyddyn 7 i 9. Roedd yr ymateb yn wych!
“Byddan nhw’n ei gofio am byth, dw i’n gobeithio.”
Ei hoff le yn y Cymoedd yw Mynydd Garthmaelwg, ac mae ei disgyblion wedi cael cyfle i weld y lle yn ddiweddar hefyd.
“Ar ben y mynydd, gall y plant weld 360 gradd o’u hardal.
“Wrth gwrs, roedd gan y plant y cyfle hefyd i weld y Cerrig Cariad a’u harysgrif, ‘O Dduw Cariad yw’.
Y Gymraeg a’i chyfleoedd
Tu hwnt i helpu i baratoi’r Eisteddfod ym Mhontypridd eleni, mae hi hefyd yn parhau i gynnal gwersi Cymraeg yn wirfoddol i oedolion yn Nhreforys, Abertawe.
Dechreuodd hi’r gwersi gyda dau ffrind, a’r tri ohonyn nhw’n llywodraethwyr yn ysgolion Abertawe.
“Roedd nifer o’r rhieni yn ofni dechrau gwersi Cymraeg, a ddim yn deall yr hyn roedd eu plant yn ei ddysgu,” meddai. “Felly, dechreuom y gwersi er mwyn magu’r ddealltwriaeth yma ac i’w helpu i beidio ofni’r iaith.
“Mor braf yw eu gweld yn magu hyder, ac i helpu’r gymuned tu hwnt i’r ysgol.”
Ychwanegodd Catrin fod y Gymraeg yn golygu “popeth” iddi.
“Mae’r iaith wedi rhoi hapusrwydd, cwmni, a ffrindiau imi, ond hefyd cyfleoedd. Heb y Gymraeg, ni fyddai cyfle i ymuno â’r Eisteddfod a rhoi’r cyfle i’r disgyblion ymuno hefyd.
“Mae’r iaith hefyd yn rhoi mwy o gyfleoedd imi o ran fy ngyrfa, gan agor drysau imi a fy nisgyblion.”