Mae Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, yn dweud bod pobol yn awyddus i glywed mwy o Gymraeg ar drenau Trafnidiaeth Cymru.

Daw hyn ar ôl i fideo fynd ar led ar y cyfryngau cymdeithasol dros y penwythnos.

Yn y fideo, mae’r dorf yn canu ‘Calon Lân’ yng ngorsaf Pontypridd, sef lleoliad Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni.

“Rydym wedi bod yn gweithio gyda Thrafnidiaeth Cymru ers dwy flynedd erbyn hyn, ac roedden nhw’n dweud ei fod yn brofiad pleserus i glywed y Gymraeg ar y trenau,” meddai Betsan Moses.

“Teuluoedd yn mwynhau’r profiad o deithio ar y tren a hefyd y morio canu, ac roedden nhw yn gofyn am fwy ohono, ac o na fasa hyn yn digwydd yn ddyddiol.

“Roedd y profiad yn hyfryd, ac mae’r ymateb rydym wedi’i gael gan ymwelwyr yn dweud ei bod mor hwylus… ydy, mae’r fideo yn gadarnhaol tu hwnt.”