Nod gyntaf Ann Jones yn yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn yw darganfod lleoliad y prif bafiliynau mewn perthynas â’r brif fynedfa.

Wrth gyrraedd y bont ar draws afon Taf ddydd Sadwrn, cafodd y ddynes o Bwllheli wybod fod y prif Bafiliwn gryn bellter i ffwrdd o’r fynedfa.

Tra ei bod hi’n barod i gerdded gyda chymorth ffon gerdded, mynnodd gwirfoddolwyr alw am gymorth.

Cyrhaeddodd hynny ar ffurf bygi golff wedi’i yrru gan Oliver Griffith-Salter, swyddog hygyrchedd yr Eisteddfod Genedlaethol.

“Roedd yn bleser mynd ag Ann o’r bont i’r Pafiliwn, lle mae hi i’w chael yn rheolaidd yn mwynhau’r cystadlaethau,” meddai.

“Mae’n rywbeth mae hi wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd lawer.

“Mae Maes yr Eisteddfod ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd yn eithaf mawr, a gall fod pellteroedd hir rhwng y pafiliynau, ond mae’r bygis yn un agwedd yn unig rydyn ni wedi gweithio arni i wneud y Maes mor hygyrch i bawb.

“Gan fy mod yn defnyddio cadair olwyn fy hun, rwy’n gwybod pa mor bwysig y gall mynediad fod.”

Pwy yw Oliver Griffith-Salter?

Mae gan Oliver Griffith-Salter, 25 oed o Gynghordy ger Llanymddyfri, gyflwr o’r enw Syndrom Ehlers Danlos, sy’n effeithio ar feinweoedd cysylltiol sy’n cynnal y croen, esgyrn, pibellau gwaed, ac organau a meinweoedd eraill, ac mae wedi defnyddio cadair olwyn ers deng mlynedd.

Roedd ei benodiad i staff yr Eisteddfod Genedlaethol y llynedd yn gam arall ym mhenderfyniad y sefydliad i sicrhau bod yr ŵyl wythnos o hyd yn hygyrch i gynifer o bobol â phosib.

Mae’r Eisteddfod yn gweithio gyda Byw Bywyd, cwmni o Gaernarfon sy’n llogi sgwteri symudedd, eto eleni.

Mae’r Eisteddfod hefyd wedi sefydlu Llecyn Llonydd, neu Gofod Tawel. Mae hwn yn ychwanegiad gweddol newydd, sy’n cynnig man tawel i’w ddefnyddwyr ymlacio gyda phaned o de os oes angen.

Mae dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain hefyd ar gael ar gais i fynd ag Eisteddfodwyr i weithgareddau yn unrhyw un o ofodau cystadlu neu berfformio’r Eisteddfod.