Mae Strategaeth Bryncynon yn awyddus i ddatblygu gwaddol Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf, sy’n cael ei chynnal ym Mhontypridd yr wythnos hon.
Er mai am wythnos yn unig mae’r Eisteddfod yn cael ei chynnal bob blwyddyn, mae’r gwaith paratoi yn cymryd o leiaf ddwy flynedd, ac mae ei gwaddol ar ôl gadael yr ardal yr un mor bwysig â’r Eisteddfod ei hun.
Mae swyddogion yr Eisteddfod wedi bod yn cydweithio’n ddiwyd â Chyngor Rhondda Cynon Taf ac asiantaethau eraill i sicrhau bod y Brifwyl yn dod â bendithion positif i’r ardal.
Un o’r asiantaethau hynny yw Strategaeth Bryncynon, sy’n rhedeg nifer o weithgareddau a phrosiectau cymunedol yn y sir.
Dechreuodd y mudiad weithio gyda’r Eisteddfod ddwy flynedd yn ôl, a hynny’n rhan o raglen allymestyn y Brifŵyl.
Yn ogystal â phantri bwyd, mae Strategaeth Bryncynon, sydd â phencadlys yn Ynysboeth ger Abercynon, yn dosbarthu prydau bwyd ac yn cynnal clwb cinio.
Mae ganddyn nhw ardd gymunedol a chaffi, ac maen nhw’n cynnal gweithgareddau sy’n amrywio o bingo i Tai Chi, gan ymateb i ofynion pobol leol.
Bydd llyfryn dwyieithog o ryseitiau yn cael ei lansio yn yr Eisteddfod, gyda llawer ohonyn nhw wedi’u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, mewn arddull hynod Gymreig.
Cryfhau’r Gymraeg yn yr ardal
Dywed Nina Finnegan Cydlynydd Strategaeth Bryncynon eu bod yn benderfynnol o gryfhau eu defnydd o’r Gymraeg yn yr ardal.
“Rydw i wrth fy modd ein bod ni’n gweithio gyda’r Eisteddfod yn ystod yr ŵyl yn Rhondda Cynon Taf,” meddai.
“Wrth i’r Eisteddfod agosáu, mae’r cyffro yn tyfu gyda llawer o weithgareddau ac mae hynny’n dda iawn i’r gymuned, ac rydym yn benderfynol o gadw’r momentwm rydym wedi ei feithrin i gario ymlaen ar ôl yr Eisteddfod.”
Ychwanega fod gan y mudiad bolisi dwyieithog, ac maen nhw’n paratoi pob gwasanaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae Nina Finnegan, sy’n hanu o’r Alban, yn ddysgwraig ac yn falch fod arian wedi’i sicrhau i gynnal gwersi Cymraeg i’r rhai sy’n cychwyn dysgu’r iaith a’r rhai sydd eisioes wedi cychwyn.
“Mae’n hawdd i ni drefnu gwersi ond cael y cyfle i ymarfer sy’n anodd,” meddai.
“Rwy’n byw yng Nghaerdydd ac yn clywed y Gymraeg ar y stryd yn rheolaidd, ond yng Nghwm Cynon ddim gymaint er fod oddeutu 30,000 o bobol yn Rhondda Cynon Taf yn medru siarad Cymraeg.
“Rwy’n gobeithio y bydd ein gwaith yn arwain at hynny’n newid yn y dyfodol.”
Denu gwirfoddolwyr yr Eisteddfod i ymuno â gweithgareddau
Un elfen mae Nina Finnegan yn gobeithio’i ddatblygu yw denu rhai o wirfoddolwyr yr Eisteddfod i ymuno â’u gweithgareddau.
“Rydym yn awyddus i’r rhai sydd yn byw yn lleol gadw mewn cysylltiad ac efallai yn parhau i wirfoddoli gyda mudiadau fel ni,” meddai.
“Fe fyddan nhw yn gymorth mawr i ni gynnig eu gwasanaeth a’u gallu i siarad Cymraeg fel bod ein cymunedau yn cael y cyfleon i sgwrsio yn yr iaith tu allan i sefyllfa dosbarth.”
Yn ôl Helen Prosser, cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, mae’n bwysig bod y Brifwyl yn rhoi hwb i’r iaith yn yr ardal.
“Mae’r Eisteddfod yn gyfle nid yn unig i’r iaith Gymraeg ond yn gyfle hefyd i’r ardal yn economaidd,” meddai.
“Rydym yn falch o gefnogi Strategaeth Bryncynon yn eu gwaith i hyrwyddo’r iaith a’n treftadaeth yn y cymoedd.”