Gyda nifer o gorau meibion ledled Cymru yn wynebu llanw a thrai, mae un côr yn parhau i gynnal y bwrlwm corawl 60 mlynedd ers ei sefydlu.
Mae gwreiddiau Côr y Brythoniaid ym Mlaenau Ffestiniog yn bwysig i’r ardal, ac mae’r gymuned leol yn ymfalchïo ynddo, yn ôl yr ysgrifennydd Phillip Jones.
Eleni, maen nhw’n dathlu eu pen-blwydd yn 60 oed, ac yn rhan o’r dathliadau maen nhw eisoes wedi cynnal cyngerdd yng Nghadeirlan Bangor gyda Chôr Seiriol a Pedair, fis diwethaf.
Mae’r côr hefyd yn dathlu carreg filltir arall, gan fod eu cyfeilyddes Elizabeth Ellis yn dathlu deugain mlynedd hefyd.
Wrth siarad â golwg360, dywed Phillip Jones fod llawer iawn mwy wedi’i drefnu yn ystod y flwyddyn.
Bydd cyngerdd yn Neuadd Moelwyn fis Medi i ddathlu’r garreg filltir yn eu hardal, meddai.
Hefyd, maen nhw’n rhyddhau dau CD – un yn cynnwys caneuon traddodiadol, a’r llall yn cynnwys y caneuon roedden nhw’n eu canu yng Ngŵyl Rhif 6.
Yn yr hydref, bydd y côr yn teithio i Lundain i berfformio mewn dwy gyngerdd.
‘Balchder’
“Mae’r côr yn bwysig iawn i’r gymuned leol, ac mae un yn cymryd balchder ohono,” meddai Phillip Jones wrth golwg360.
“Dydi cefnogaeth y gymuned heb wanhau o gwbl dros y blynyddoedd, ac mae un yn cymryd balchder o’r côr yn y gymuned leol.”
Mae aelodaeth y côr wedi ehangu, meddai, ac maen nhw’n denu unigolion o bob rhan o Wynedd heddiw i ganu o dan arweiniad John Eifion, enillydd y Rhuban Glas.
Mae’r côr yn dod â theimlad o berthyn, gan fod canu yn rhywbeth arbennig iawn, yn ôl y cadeirydd Geraint Parry, sydd hefyd wedi bod yn siarad â golwg360.
“Mae’n ffordd i anghofio poenau’r byd ac mae’r sialens o ddysgu darnau heriol yn bwysig,” meddai.
“Mae’n beth da i iechyd meddwl, ac mae’r côr yn rhywbeth dynol.
“Rhwng yr aelodau, y pwyllgor â’r arweinydd, mae’r côr yn dîm da – yn rhywbeth sy’n creu.
“Mae’n llesol inni, ac mae’n llesol i’r rhai sy’n gwrando arnom ni.”
Yr elfen gystadleuol
Cafodd y côr ei sefydlu yn 1964, o dan adain Meirion Jones, gyda’r bwriad o gystadlu mewn eisteddfod fach leol ym Manod, felly mae’r elfen gystadleuol wedi bod yn rhan annatod o’r côr ers y cychwyn cyntaf.
Dywed Geraint Parry, cadeirydd y côr, fod “cystadlu yn rhan yr ydym yn ei fwynhau’n fawr”.
“Erbyn heddiw, rydan ni’n dewis lle rydan ni’n mynd i gystadlu, ac yn ceisio cefnogi eisteddfodau bach, ond hefyd yn teithio i lefydd fel Huddersfield i gystadlu – heb anghofio’r Genedlaethol ac Eisteddfod Llangollen hefyd.”
Mae cystadlu yn “cadw traddodiad y corau meibion ac mae’n hollbwysig ein bod yn chwarae ein rhan,” meddai wedyn.
Nid yn unig mae cystadlu yn cadw enw da’r côr ymysg y gynulleidfa sy’n dilyn corau meibion, ond mae hefyd yn rhoi sialens i’r aelodau ddysgu amrywiaeth o ddarnau i gyfoethogi eu repertoire.
Dywed Phillip Jones fod “cystadlaethau yn dod â disgyblaeth arbennig i’r côr ac yn gymorth i’r côr i ganolbwyntio, dim bwys os mai eisteddfod fach neu eisteddfod fawr – mae’n rhaid rhoi’r un sylw i bob un ohonynt”.
Yn Eisteddfod Llangollen, fe wnaethon nhw berfformio darn heriol oedd wedi’i gomisiynu gan Gareth Glyn, a’r geiriau wedi’u hysgrifennu gan Geraint Vaughan Jones, sy’n aelod o’r côr.
“Mae’n bwysig ein bod yn ehangu ein repertoire a’n rhaglen,” meddai Phillip Jones.
Y gobaith yw cael mwy o ddarnau wedi’u comisiynu i’r dyfodol, ond mae canu’r hen ffefrynnau hefyd yn mynd â’u pryd.
Ar hyd y blynyddoedd, mae’r côr wedi perfformio sawl gwaith yng Ngŵyl rhif 6, ac roedd hyn wedi gwneud “llawer o ddaioni” i’r côr am eu bod yn canu amrywiaeth o ganeuon, yn ôl Phillip Jones.
Maen nhw wedi teithio ledled y byd – ddwywaith i America a Gwlad Belg, Hwngari, Iwerddon a’r Alban – ac maen nhw wedi cael y fraint o rannu llwyfan gyda pherfformwyr gorau’r byd, gan gynnwys Dennis a Patricia O’Neill, Shirley Bassey, Harry Secombe, Gwyn Hughes Jones a Bryn Terfel.
Côr Llechen Lân
Mae’r cyfeillgarwch rhwng Côr y Brythoniaid a Chôr Seiriol wedi’i amlygu droeon, wrth iddyn nhw rannu llwyfan mewn cyngherddau, ac yn ddiweddar maen nhw hyd yn oed wedi cyd-gystadlu.
Cafodd y syniad ei fagu rhwng yr arweinyddion, John Eifion a Gwennant Pyrs, a chafodd y côr Llechen Lân ei sefydlu.
Fe wnaethon nhw gyd-gystadlu am y tro cyntaf yn Eisteddfod Llanrwst yn 2019.
Dywed Geraint Parry ei fod yn “gôr o fri”, a’i fod wedi mwynhau rhannu llwyfan gyda nhw, oedd yn “bleser mawr”.