Mae rhai o fusnesau Pontypridd yn dweud bod diffyg ymwelwyr o’r Eisteddfod Genedlaethol yn “dorcalonnus”.

Agorodd Maes yr Eisteddfod yn swyddogol fore Sadwrn (Awst 3), ac yn llawn gobaith roedd rhai o fwytai’r dref wedi archebu mwy o gynhwysion na’r arfer a threfnu i fwy o staff weithio’r wythnos.

Ond nid dyma’r realiti hyd yn hyn, meddai perchnogion tri o fusnesau’r dref wrth golwg360.

Dywed dau o’r busnesau eu bod nhw wedi gorfod cau’n gynnar gan ei bod hi mor ddistaw yn y dref.

Gobeithio am fwy o ymwelwyr

Bu golwg360 yn holi Theresa Conner, perchennog The Welsh Cake Shop yn y farchnad, am yr effaith mae’r Eisteddfod wedi’i chael ar ei busnes.

“Yn anffodus, dydyn ni heb weld y nifer o ymwelwyr roedden ni’n disgwyl, ond mae’r rheini sydd wedi dod i’r siop yn edrych fel eu bod nhw’n cael amser ardderchog yn ystod yr Eisteddfod, sy’n ffantastig,” meddai.

Ond does dim cynnydd wedi bod mewn cwsmeriaid na chyllid, meddai.

Serch hynny, mae hi’n gobeithio y bydd hyn yn “newid wrth i’r wythnos fynd yn ei blaen”.

O ganlyniad i’r gobaith yma, mae Theresa Conner wedi ymestyn amseroedd agor y siop dros yr wythnos, yn y gobaith y bydd ymwelwyr yn treulio mwy o amser yn y dref ei hun.

Yn ogystal, mae hi’n gobeithio y bydd yr Eisteddfod yn gadael argraff barhaol o Bontypridd ar yr ymwelwyr.

“Er nad ydyn ni’n cymryd rhan yn yr Eisteddfod yn swyddogol, rydym yn gweithio’n galed i gynnig y profiad gorau i’r rheini sy’n ymweld â ni,” meddai.

“Dw i’n gobeithio bod ymwelwyr yn cael profiad positif a phleserus, ac yn meddwl am ddod nôl yn y dyfodol er mwyn gweld mwy o’r ardal.

“Mae gennym ni dref fendigedig a chymuned gyfeillgar.

“Gobeithio y bydd cynnal yr Eisteddfod yn cael effaith gadarnahol am flynyddoedd i ddod.”

The Welsh Cake Shop wedi’i addurno ar gyfer yr Eisteddfod

‘Torcalonnus’

Un sydd wedi gorfod cau ei chaffi yn gynnar oherwydd diffyg cwsmeriaid yw Rhianydd Kumar, perchennog Rhi’s Cafe.

Wedi disgwyl cyfnod prysur, archebodd hi fwy o fwyd a chynhwysion na’r arfer, ac addurnodd hi’r caffi i ddathlu ymweliad yr Eisteddfod â Phontypridd.

“Mae wedi bod yn ddistaw iawn,” meddai wrth golwg360.

“Dydy’r cwsmeriaid lleol heb fod yn dod i mewn o gwbl.

“Maen nhw eisoes wedi dweud wrthym nad ydyn nhw am ddod i mewn dros yr wythnos hon.

“Felly rydyn ni wedi’u colli nhw, a dydyn ni ddim yn gwneud prin ddim busnes o ymwelwyr yr Eisteddfod chwaith.

“Dydy e ddim be’ oedden ni’n ei ddisgwyl.

“A dim jest ni ydy o, mae pawb yn dweud yr un peth.

“Roeddem wedi archebu mwy o stoc ar gyfer yr wythnos a threfnu bod mwy o staff yn gweithio bob dydd, ond does yna ddim angen.

“Rydym wedi gorfod cau’n gynnar hefyd gan ei bod hi mor ddistaw.

“Wnaethon ni’r ymdrech i addurno hefyd, ac mae’n gwneud i chi feddwl, beth yw’r pwynt?

“Mae’n dorcalonnus.”

Yn ôl Rhianydd Kumar, y prysurdeb honedig fyddai yn y dref a’r newidiadau i drafnidiaeth sydd wedi gyrru ei chwsmeriaid rheolaidd i ffwrdd.

“Roedd e dros Facebook i gyd fod miloedd ar filoedd o bobol am fod yn dod yma, felly mae rhai yn osgoi’r dref yn gyfan gwbl.

“Mae lot o bobol hŷn sydd fel arfer yn defnyddio’r bws i gyrraedd y dref, ond dydy’r un maen nhw’n ei ddefnyddio ddim yn mynd yr wythnos hon.”

‘Trychineb i ni hyd yn hyn’

Un arall sy’n credu ei fod ar ei golled hyd yn hyn yw Steve Lobodzinski, perchennog The Thai Cafe ym marchnad y dref.

“Roedd dydd Sadwrn yn ddistaw iawn, felly penderfynom nad oedd hi’n werth agor ddydd Sul,” meddai.

“Mae hi mor ddistaw nad oes yna bwynt troi’r trydan ymlaen.

“Dydych chi ddim yn talu’r cyflogau o’r hyn rydych chi’n ei wneud.

“Roeddem wedi prynu mwy o stoc na’r arfer hefyd.

“Fe gawsom ni dywydd neis ddydd Sadwrn hefyd, felly dydyn ni methu beio hynny.

“Mae heddiw yn ddistaw hefyd, felly ar y foment, er eu bod nhw’n dweud bod yr Eisteddfod yn dda i’r economi, dydy o heb fod o fudd i unrhyw fusnes lleol.

“Mae pobol yn cyrraedd y dref ac yn mynd yn syth i mewn i’r parc – dyna’r adborth dw i wedi’i gael.

“Mae wedi bod yn drychineb i ni hyd yn hyn.”

Mae’n credu mai diffyg lleoedd parcio sydd yn cadw ei gwsmeriaid rheolaidd i ffwrdd, yn ogystal â’r syniad sydd wedi’i gyfleu fod y dref am fod yn “brysur ofnadwy”.

“Mae lot o’n cwsmeriaid lleol wedi peidio dod i mewn, gan fod y mwyafrif ohonyn nhw’n gyrru i mewn yn eu ceir ac mae’r meysydd parcio yn cael eu defnyddio ar gyfer yr Eisteddfod.

“Neu maen nhw’n cadw i ffwrdd oherwydd bod y Cyngor wedi dweud y bydd hi’n brysur ofnadwy yn y dref.”

Rhi’s Cafe ar Stryd y Taf wedi’i addurno